Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Drwy gydol y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau, lle byddwch yn sylweddoli sut mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn cysylltu â chynifer o sectorau gwaith.
Mae pynciau’n cynnwys:
- Gwasanaeth cwsmeriaid
- Trwristiaeth arfordirol
- Atyniadau ymwelwyr yn y DU
- Meysydd awyr a chwmnïau hedfan
- Lletygarwch mewn teithio a thwristiaeth
- Cyrchfannau teithio a thwristiaeth.
Gwybodaeth allweddol
Dwy radd D ar lefel TGAU neu’r cyfwerth.
Asesiadau parhaus trwy lyfrynnau, chwarae rôl a chyflwyniadau. Graddau Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth.
100% gwaith cwrs, lle byddwch yn casglu portffolio o dystiolaeth.
Gall llwyddiant ar y cwrs arwain at ddilyniant i’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Twristiaeth Uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys teithiau cyffrous i atyniadau lleol a chenedlaethol, gan roi profiadau uniongyrchol i chi gasglu tystiolaeth ar gyfer eich aseiniadau. Mae’r ymweliadau hyn yn rhoi ystyr i’r gwaith cwrs, gan wella a chyfoethogi eich dysgu a gwneud eich aseiniadau yn hwyl. Costau’r cwrs yw tua £50-£100 Mae cymorth ariannol ar gael (os yw’n briodol).