Chwaraeon Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn rhoi cipolwg gwych i chi ar y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol, gyda chyfle i gael cymwysterau hyfforddiant ychwanegol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Anafiadau chwaraeon
- Maetheg
- Chwaraeon ymarferol
- Anatomeg
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau chwaraeon.
Mae hefyd yn annog datblygiad personol trwy gyfranogiad ymarferol a pherfformiad mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd D neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg
Asesir yr unedau trwy waith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.
Gallai cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon/hamdden neu ddilyniant i gwrs Lefel 3 mewn chwaraeon (h.y. Chwaraeon (Datblygiad, Hyfforddiant a Ffitrwydd), Chwaraeon – Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed neu Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff neu faes pwnc cysylltiedig.
Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.
Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.