Skip to main content

Safon Uwch Cymdeithaseg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o’n cymdeithas newidiol yn ogystal â dysgu am ddulliau ac ymchwil cymdeithasegol. Bydd yn eich helpu i ddeall sut mae bywydau unigol yn cael eu dylanwadu gan sefydliadau cymdeithasol fel y teulu, addysg a’r cyfryngau torfol, a byddwch yn ymchwilio i drosedd a gwyriad yn y gymdeithas gyfoes. 

Fel y dywedodd Cymdeithasegydd enwog ar un adeg: 

“Allwch chi fyth ddeall unigolyn mewn gwirionedd oni bai eich bod hefyd yn deall y gymdeithas, y cyfnod hanesyddol y mae’n byw ynddo, trafferthion personol, a materion cymdeithasol.” C. Wright Mills 

Trwy astudio cymdeithaseg, byddwch yn cael mewnwelediad unigryw i fywyd cymdeithasol ac achosion cymdeithasol a chanlyniadau ymddygiad dynol. 

Mae meysydd astudio’n cynnwys:  

Unedau UG 

  • Diwylliant, Cymdeithasoli a Hunaniaeth, Deall Teuluoedd ac Aelwydydd 
  • Deall y Gyfundrefn Addysg a Dulliau Ymchwil Gymdeithasegol.

Unedau U2 

Trosedd a Gwyriad 

  • Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Ymchwil Gymhwysol 
  • Drwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu traethawd, datblygu’ch gallu i ddadlau, trafod materion cymdeithasol, a deall camau dylunio prosiect ymchwil.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU  
  • Mae graddau B mewn TGAU Saesneg Iaith, Saesneg Llenyddiaeth a Mathemateg yn hanfodol.

Rydym yn dilyn maes llafur Safon Uwch CBAC. Asesir y cwrs trwy ddau arholiad yn y flwyddyn gyntaf a dau arholiad yn yr ail flwyddyn. 

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn sefyll arholiadau ffug ac asesiadau ysgrifenedig lle byddwch yn cael adborth a thargedau unigol yn seiliedig ar y tri maes sgiliau: gwybodaeth a dealltwriaeth, dehongli a gwerthuso.  

Mae Safon Uwch Cymdeithaseg yn gymhwyster ardderchog, uchel ei barch gan y prifysgolion gorau. Byddwch yn datblygu sgiliau yn barod ar gyfer y brifysgol ac amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys: 

  • heddlu 
  • addysgu 
  • newyddiaduraeth 
  • nyrsio  
  • gwaith cymdeithasol 
  • gweithio i elusennau mawr.

Mae cyrsiau sy’n cael eu dilyn yn y brifysgol yn cynnwys Cymdeithaseg, Polisi Cymdeithasol, Y Gyfraith, Troseddeg, Cymdeithaseg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Seicoleg.  

Cewch gyfle i ymuno â’n taith dridiau flynyddol i Lundain, sy’n cynnwys taith Trosedd a Gwyriad, ymweliad â’r Llysoedd Barn Brenhinol, cipolwg ar hawliau menywod, a sioe theatr sy’n dathlu materion cymdeithasol. 

Rydym yn adran gyfeillgar a chefnogol dros ben. Rydym yn darparu llyfrynnau gwaith arbenigol i’ch arwain trwy’r cwrs.