Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau - Diploma Estynedig Lefel 3
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn archwilio amrywiaeth o faterion cyfredol ac amserol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i chi ddatblygu a dangos gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Amcanion y Cwrs:
- Ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol, rolau ac atebolrwydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o fewn y sector
- Dysgu am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymddygiad ac arferion proffesiynol sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu rolau
- Byddwch yn ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth a bydd rhaid i chi ymgysylltu â’r sector hefyd
- Deall pa mor bwysig yw perthnasoedd cadarnhaol, ymddiriedaeth, cyfathrebu effeithiol.
Canlyniadau’r Cwrs:
- Sylfaen addas o iechyd a gofal cymdeithasol trwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau
- Deall y gwerthoedd sydd wrth wraidd sgiliau a rhinweddau iechyd a gofal cymdeithasol a’u cymhwyso i amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, fel canolfannau dydd, cartrefi gofal a gwasanaethau anghenion ychwanegol.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd A-C ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth.
Dros bum diwrnod yr wythnos 9:00 – 16:30
Asesu:
Dros ddwy flynedd, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau arholiad allanol a saith asesiad di-arholiad.
Meini Prawf Graddio:
Mae cymhwyster llawn yn gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch ac mae modd cyflawni graddau o A*A*A* - EEE.
Mae dilyniant i Addysg Uwch yn bosibl gyda’r cymhwyster llawn. Gallai hyn gynnwys:
- Iechyd
- Gofal cymdeithasol
- Blynyddoedd cynnar
- Therapi lleferydd ac iaith
- Seicoleg a chwnsela
- Bydwreigiaeth
- Therapi galwedigaethol
- Addysg.
Yn ogystal, mae gennym fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i’n cyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, fel cyrsiau Gradd Sylfaen mewn Plentyndod Cynnar a Gradd Sylfaen mewn Gwaith Cymunedol.