Skip to main content

Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach (Llwybr Gofal Plant/STL) gyda Sgiliau Hanfodol Cymru (Cyfathrebu) Lefel 1

Rhan-amser
Lefel 1
Tycoch
28 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn eich helpu i ymbaratoi ar gyfer eich cam nesaf yn y coleg neu hyfforddiant.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn cwblhau dau gymhwyster ar yr un pryd:

  • Tystysgrif mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 1
  • Sgiliau Hanfodol Cymru (Cyfathrebu) Lefel 1

Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu i fagu hyder wrth astudio sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd:

  • Eisiau symud i gwrs Lefel 2
  • Eisiau gwella sgiliau cyfathrebu Saesneg
  • Eisiau mwy o hyder wrth ddysgu
  • Angen cymorth cyn astudiaethau lefel uwch.

Mae’n ddefnyddiol i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Blynyddoedd Cynnar.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Astudio a threfnu eich gwaith
  • Rheoli eich amser
  • Darllen a deall gwybodaeth
  • Ysgrifennu’n glir ac yn gywir
  • Siarad a gwrando’n hyderus
  • Defnyddio cyfrifiadur ar gyfer dysgu
  • Gweithio gyda phobl eraill
  • Cynllunio eich camau nesaf mewn addysg
  • Mae dysgu yn defnyddio enghreifftiau go iawn i helpu dealltwriaeth.

Gwybodaeth allweddol

I ymuno â’r cwrs hwn, rhaid i chi:

  • feddu ar gymhwyster Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) - Cyfathrebu
  • bod ag agwedd gadarnhaol at ddysgu
  • cael cyfweliad gyda thiwtor.

Os nad oes gennych gymhwyster Mynediad 3 SHC, efallai bydd eich tiwtor yn awgrymu cwrs arall yn gyntaf.

Sut mae’r cwrs yn cael ei asesu?

Does dim arholiadau.

Byddwch yn casglu’ch gwaith mewn portffolio (ffolder sy’n dangos eich gwaith).

Gallai’ch gwaith gynnwys:

  • Tasgau ysgrifennu byr
  • Gweithgareddau siarad a gwrando
  • Tasgau ymarferol
  • Gwaith grŵp
  • Adborth gan diwtor.

Bydd eich tiwtor yn eich helpu yn ystod y cwrs.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i’r canlynol:

  • Cyrsiau coleg Lefel 2
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2
  • Blynyddoedd Cynnar Lefel 2.

Bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddewis eich cwrs nesaf.

Cyrff Dyfarnu: Agored Cymru | CBAC

Agored Cymru Level 1 Certificate in Skills for Further Study
Cod y cwrs: E1C1352_P1
02/11/2026
Tycoch
28 weeks
Monday
9:30am - 12:30pm
£150.00