Skip to main content
Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2026

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2026

Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn wych arall o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.

Wrth y llyw yn nigwyddiad y Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol yn Stadiwm Swansea.com, roedd Mal Pope, y canwr-gyfansoddwr, darlledwr a chynhyrchydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr BAFTA ac y mae ei yrfa yn rhychwantu cerddoriaeth, theatr, ffilm a theledu.

Rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, prentisiaethau, llwybrau addysg uwch a rhaglenni mynediad.

Roedd y digwyddiad yn arddangosfa ymarferol o ddoniau staff a myfyrwyr. Darparwyd y set, y goleuadau a’r sain gan y tîm Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3.

Perfformiodd myfyrwyr talentog blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn o gwrs UAL Celfyddydau Perfformio Lefel 3 Day by Day o’u cynhyrchiad llwyddiannus diweddar o Godspell.

Roedd y Coleg hefyd yn falch iawn o groesawu’r cyn-fyfyriwr Katherine Foxall, sydd newydd gwblhau ei thrydedd flwyddyn yng Ngholeg Cerdd Royal Northern. Fe wnaeth Katherine syfrdanu’r gynulleidfa gyda’i dehongliad o I Could Have Danced All Night.

Myfyrwyr Blodeuwriaeth gwych y Coleg, sy’n astudio ar Gampws Llwyn y Bryn, a wnaeth yr addurniadau hardd yng nghanol y byrddau.

Siaradwr gwadd y noson oedd cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Lauren Evans, a siaradodd am y daith yrfa anhygoel sydd wedi mynd â hi o ddosbarth gweithiol De Cymru i galon y diwydiant adloniant.

Mae Lauren yn gyfarwyddwr castio clodwiw yn y DU a enillodd wobr BAFTA am y Castio Gorau yn ddiweddar yn y ffilm I Swear. Sefydlodd ei hun fel cyfarwyddwr castio yn 2018 ac ers hynny mae wedi adeiladu portffolio trawiadol ar draws meysydd teledu, ffilm, theatr a sain.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi mwynhau un o’r proffiliau o’r ansawdd uchaf ymhlith unrhyw sefydliad addysg, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Mae hyn i gyd wedi cael ei gyflawni o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol ein myfyrwyr a’n staff, ac mae heno yn achlysur pan gawn ddathlu eu llwyddiant a thalu teyrnged i’r goreuon.”

“Mae heno hon yn gyfle i ddathlu cyflawniadau rhagorol ein dysgwyr ac i gydnabod pawb sydd wedi chwarae rhan yn eu llwyddiant,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift. "I bawb sy’n derbyn gwobrau heno, llongyfarchiadau ar eich cyflawniadau. Dylech fod yn hynod falch – fel yr ydym ni’n falch ohonoch chi. Diolch hefyd am fod yn fodelau rôl mor gadarnhaol, yn ysbrydoli dysgwyr eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain ac i ddilyn eu huchelgeisiau.”

Dyma enillwyr 2026 yn llawn:

Addysg Sylfaenol i Oedolion/ESOL - Myfyriwr y Flwyddyn –  Oleksandr Pantiukhov
Gwobr Bernie Wilkes Gwallt, Harddwch a Holisteg - Myfyriwr y Flwyddyn – Eleanor Ball
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth - Myfyriwr y Flwyddyn – Cai Groom
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Myfyriwr y Flwyddyn – Eva Robins
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus - Myfyriwr y Flwyddyn – Abdulghani Kaytouh
Celfyddydau Gweledol - Myfyriwr y Flwyddyn – Charlie Chandler
Busnes - Myfyriwr y Flwyddyn – Evan Pedrick
Celfyddydau Creadigol - Myfyriwr y Flwyddyn – Lucca Smith
Y Dyniaethau ac Ieithoedd - Myfyriwr y Flwyddyn – Rowan Fielding
Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol - Myfyriwr y Flwyddyn – Jamie Fifield
Peirianneg - Myfyriwr y Flwyddyn – Matilda Topliss
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Myfyriwr y Flwyddyn – Kacey Felton
Amgylchedd Adeiledig - Myfyriwr y Flwyddyn – Ashton Williams
Prentis y Flwyddyn – Michelle James
Llwyddiant Chwaraeon Rhagorol y Flwyddyn – Sam Morgan
Partner Cyflogwr y Flwyddyn – Microsoft
Gwobr Elaine McCallion Hyfforddiant GCS - Myfyriwr y Flwyddyn – Natalie Phillips
Myfyriwr Rhyngwladol y Flwyddyn – Nisha Wattananavin
Mynediad – Myfyriwr y Flwyddyn – Jennifer Jones 
Gwobr Holly Donohoe Addysg Uwch - Myfyriwr y Flwyddyn – David Southam
Yr Iaith Gymraeg - Myfyriwr y Flwyddyn – Elis Fowler-Brew
Dilyniant ac Ymrwymiad - Myfyriwr y Flwyddyn – Ella Davies
Sgiliau - Myfyriwr y Flwyddyn – Ruhan Ahmed

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn – Jamie Fifield

Diolch yn fawr iawn i bob un o’n noddwyr 2026:

Asbri Planning
AtkinsRéalis 
Bardic Construction
Blake Morgan
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyngor Abertawe
Kelly Fountain
Get Yourself Noticed
Greenwood Projects
Hengoed Care
Kier Group
Paul Kift
Knox and Wells
MPS Furniture
Prifysgol Cymru
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 
reThink PR and Marketing
RW Learning
Secret Hospitality Group
South Wales Transport
The Cusp
WalesOnline
Waters Creative

Ewch i Google Drive i weld yr holl luniau