Office 365 i Ddechreuwyr
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad cyfeillgar a hawdd i Microsoft Office 365, ar gyfer pob lefel, p’un a ydych yn ddechreuwr pur neu yn rhywun sydd eisiau cael mwy o hyder.
Addysgir y cwrs ar draws tri thymor 10 wythnos.
Yn y tymor cyntaf, byddwn ni’n archwilio Microsoft Word a dysgu hanfodion creu a golygu dogfennau. Byddwn ni hefyd yn edrych ar OneDrive a Forms mewn ffordd syml, ymarferol.
Yn yr ail dymor, byddwn ni’n symud ymlaen i Microsoft Excel, lle byddwn ni’n dysgu sut i ddefnyddio taenlenni ar gyfer tasgau pob dydd fel cyfrifiadau syml a chreu siartiau – dim byd rhy gymhleth, dim ond sgiliau defnyddiol y gallwch adeiladu arnynt.
Byddwn ni hefyd yn cyflwyno Outlook a Teams yn fras. Yn y tymor olaf, byddwn ni’n mynd yn greadigol gyda Microsoft PowerPoint a Sway, gan roi cyflwyniadau at ei gilydd mewn ffordd hwyliog ac ymlaciol.
Byddwch chi’n dysgu:
- Prosesu geiriau
- Taenlenni
- Creu a rhoi cyflwyniadau digidol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ac nid oes angen profiad.
Mae llyfrynnau yn cael eu cwblhau yn y dosbarth a’u marcio gan y tiwtor.
Llythrennedd Digidol – Sgiliau Hanfodol Cymru (Lefel 1 a 2).
Nid oes costau cwrs ac fel arfer mae gwibdaith yn cael ei threfnu ar gyfer y Nadolig neu’r haf.