Skip to main content
Myfyrwyr y Coleg yn dathlu llwyddiant medalau

Myfyrwyr y Coleg yn dathlu llwyddiant medalau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu rownd wych arall o lwyddiant medalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026.

Cafodd myfyrwyr eu gwahodd i ‘barti gwylio’ arbennig a seremoni medalau ar Gampws Tycoch lle enillon nhw dair medal Aur, 11 medal Arian a thair medal Efydd.

Dyfarnwyd 23 o dystysgrifau Canmoliaeth Uchel i fyfyrwyr y Coleg hefyd. 

Aur

  • Matilda Topliss - Electroneg Ddiwydiannol
  • Solomon Bunn-Sovin – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
  • Steve Sebastian - Dylunio Graffig

Arian

  • Brandon Price – Datblygu Gwefannau
  • Connor Brown - Sgiliau Sero Net
  • Joshua Stock – Gosod Brics
  • Keyna Peynado – Dylunio Graffig
  • Kobi Williams – Sgiliau Sero Net
  • Kori Williams - Gwaith Coed
  • Marley Blakemore - Electroneg Ddiwydiannol
  • Maya Brooks - Ffotograffiaeth
  • Rhys Freeman - Sgiliau Sero Net
  • Sophie Hockley – Sgiliau Crefft Ceramig
  • Thomas Rideout - Sgiliau Sero Net

Efydd

  • Benjamin Hutchins - Ffotograffiaeth
  • Jesse Moxham - Electroneg Ddiwydiannol
  • Maizie Lee – Therapydd Harddwch

Canmoliaeth Uchel

  • Aaron Moore – Plastro
  • Amber Grey – Gofal Plant
  • Ben Winstone - Cyfrifeg
  • Bethan Guard – Gofal Plant
  • Courtney Taylor - Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd
  • Cynan Kingdon - Codio
  • Dalat Adebari – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Emily-Grace Kitchin - Sgiliau Patrymau Arwyneb a Thecstilau
  • Ethan Butler - Codio
  • Harley Dark – Colur Creadigol
  • Isabelle Tracey-Fall - Therapydd Harddwch
  • Jack Hopkins - Ffotograffiaeth
  • Josef Nisbet - Codio
  • Joshua Pritchard – Gosod Brics
  • Kaya-Louise Quinn - Electroneg Ddiwydiannol
  • Kelsey Smith - Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
  • Louis Morgan - Electroneg Ddiwydiannol
  • Max Thomas - Cyfrifeg
  • Nafis Islam - Sgiliau Cynhwysol: Garddwriaeth
  • Nikita Kod – Cyfrifeg
  • Olga Roshchupkina - Trin gwallt
  • Shimar Nazeem - Electroneg Ddiwydiannol
  • Tom Noble – Gwaith Coed

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n codi proffil sgiliau drwy roi cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid brofi a gwella eu galluoedd drwy gystadleuaeth.

Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u darparu gan rwydwaith o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'r cystadlaethau’n cyd-fynd â safonau WorldSkills ac yn cefnogi anghenion economi Cymru.

“Mae fframwaith Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn amhrisiadwy wrth gefnogi a hyrwyddo sgiliau a chyflawniadau galwedigaethol mewn amrywiaeth o bynciau a sectorau,” meddai Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Kift.

“Mae gyda ni hanes cryf yn y cystadlaethau hyn, ac rydyn ni wrth ein bodd o ddathlu llwyddiant y dysgwyr hyn eto yn 2026. Clod mawr i staff addysgu a chymorth y Coleg hefyd sy’n arwain ac yn mentora eu myfyrwyr drwy gydol y broses, mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn chwarae rôl annatod yn y llwyddiant parhaus hwn.”