Mae ffocws y darlithydd peirianneg blaengar Rabya Kadhim ar ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch a chefnogi dysgwyr i gyflawni deilliannau sy’n trawsnewid eu bywydau a’u dyfodol mewn modd cadarnhaol.
Yn Diwtor Addysg Bellach ac Addysg Uwch a Mentor yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Rabya yn cyflwyno dysgu addysg uwch ar draws dwy raglen – HNC/HND mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Fecanyddol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrentisiaeth Gradd BEng mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Mae wedi arwain wrth ddatblygu a gweithredu’r rhaglenni hyn i ateb anghenion esblygol y diwydiant, ar ôl ymgynghori’n eang gyda dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid prifysgol a chyrff dyfarnu. Mae’r rhaglenni yn rhoi llwybrau dilyniant clir i gyflogaeth, prentisiaethau ac astudiaeth ôl-radd.
Mae Rabya yn un o chwe tiwtor a gaiff eu cydnabod am eu cyfraniad i addysg yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a gynhelir yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd ar 17 Mawrth.
Caiff tiwtoriaid eu hanrhydeddu am eu gwaith ar draws Addysg Bellach, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.
Wedi’u cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r gwobrau yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol sy’n mynd yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr gan drawsnewid eu bywydau a chryfhau cymunedau.
Gan ddisgrifio ennill Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid fel “anhygoel o ystyrlon”, ychwanegodd: “Mae’n cydnabod y gwerthoedd sy’n llywio fy ngwaith bob dydd – addysg gynhwysol, hygyrch ac sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
“Drwy addysgu Addysg Uwch o fewn y sector Addysg Bellach yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rwy’n cefnogi dysgwyr nad ydynt efallai yn ystyried eu hunain fel myfyrwyr traddodiadol, felly mae’r wobr hon yn adlewyrchu effaith gadarnhaol helpu pobl i dyfu mewn hyder a gwireddu eu potensial.”
Mae dysgwyr Rabya yn amrywio o bobl ifanc yn dechrau ar eu taith mewn addysg uwch i ddysgwyr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg. Mae’n creu amgylchedd dysgu rhyngweithiol deinamig lle mae dysgwyr aeddfed yn rhannu eu gwybodaeth waith a’u profiad bywyd gyda myfyrwyr iau sydd yn eu tro yn cynnig cymorth gyda sgiliau academaidd a digidol.
Gan ddeall yr heriau sy’n wynebu ei dysgwyr, mae’n defnyddio dull addysgu hyblyg a chynhwysol, gan roi llawer o gymorth academaidd a bugeiliol – yn aml gyda’r nos ac ar benwythnosau – drwy fentora un i un, sesiynau tiwtorial ychwanegol ac adnoddau dysgu pwrpasol.
Mae’r gefnogaeth hon yn annog dysgwyr i gwblhau eu cymhwyster yn hyderus. Dywed Rabya mai llwyddiant dysgwyr yw canlyniad mwyaf ystyrlon ei gwaith.
Cafodd ei denu i addysgu peirianneg oherwydd ei fod yn cyfuno datrys problemau gydag effaith byd go iawn ac yn cynnydd dilyniant clir i yrfaoedd medrus.”
“Mae peirianneg yn yrfa werth chweil a chynhwysol sy’n manteisio o safbwyntiau amrywiol, “ ychwanegodd. “Rwy’n annog menywod o bob oed i ystyried peirianneg oherwydd fod profiad bywyd yn gryfder, nid rhwystr ac o gael y gefnogaeth gywir, nid yw hi byth yn rhy hwyr i lwyddo yn y maes.”
Cafodd ei henwebu gan Rhys Thomas, Rheolwr Maes Dysgu Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a ddywedodd: “Bu Rabya yn sbardun dros ragoriaeth, cyfle ac arloesi o fewn addysg uwch yn y sector Addysg Bellach, gan arwain trawsnewidiad a gafodd effaith dybryd a pharhaus ar ddysgwyr, cydweithwyr a’r sefydliad ehangach.”
Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Llongyfarchiadau i Rabya ar ennill y wobr yma. Mae Gwobrau Ysbrydoili! Tiwtoriaid yn gyfle i ddathlu’r tiwtoriaid gwych ledled Cymru sy’n cefnogi oedolion sy’n ddysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd.
“Mae llawer o ddysgwyr wedi dweud wrthyf fod dychwelyd i ddysgu wedi gwella eu bywydau, a phan fo un person yn dysgu gwyddom fod y budd yn ymestyn ledled teuluoedd a chymunedau cyfan mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn newid bywydau.
“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y tiwtoriaid gwych fel Rabya sy’n gweithio ar draws addysg drydyddol sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.”
Meddai Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn dathlu ymroddiad anhygoel addysgwyr ledled Cymru sy’n mynd ati bob dydd i gefnogi oedolion sy’n ddysgwyr ym mhob amgylchedd – o safleoedd cymunedol a phrifysgolion i golegau addysg bellach a’r gweithle.
“Wrth anrhydeddu eu llwyddiannau, rydym yn dathlu’r holl sector addysg oedolion gan wybod lle bynnag mae dysgu yn digwydd, fod gan diwtor angerddol y grym i newid bywydau.”
Cefnogir y gwobrau gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.