Diwrnod Darganfod Digidol – Creu Cynnwys Digidol
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r Diwrnod Darganfod Digidol yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau creu cynnwys digidol proffesiynol ar gyfer busnes neu addysg.
Bydd dysgwyr yn archwilio offer newydd ( o gymharu â rhaglenni traddodiadol fel PowerPoint), gan gynnwys nodweddion diweddaraf Microsoft 365, deallusrwydd artiffisial yn ogystal ag offer fel Canva, Gamma a llyfrau amlgyfrwng. Bydd y sesiwn yn canolbwynrio ar ddylunio cynnwys clir ac apelgar er mwyn profi nad oes angen sgiliau dylunio arbenigol i greu cynnwys o safon.
Bydd dysgwyr yn dysgu a datblygu amrywiaeth o syniadau a thechnegau y gallant eu defnyddio yn y gwaith, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn effeithiol.
Gwybodaeth allweddol
Gwybodaeth am ddenfyddio offer digidol.
Darperir y sesiwn drwy weithdy ymarferol, rhyngweithiol a bydd sesiwn y bore yn cael ei gynnig dan arweiniad tiwtor. Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu am bob offeryn a’u nodweddion allweddol. Anogir dysgwyr i arbrofi gyda'r offer eu hunain, gan greu cynnwys sampl ac archwilio dulliau creadigol.
Bydd sesiwn y prynhawn yn ffocysu ar gydweithio a myfyrio, gan ganiatáu i gyfranogwyr rannu syniadau, trafod beth sy'n gweithio'n dda, datrys problemau a datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer defnyddio’r offer hyn o fewn eu rolau a’r addysg y maent yn ei darparu.
Erbyn diwedd y dydd bydd y dysgwyr wedi ennill profiad (a sgiliau) ymarferol fel y gallant greu cynnwys digidol proffesiynol ac apelgar.
Cyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
- Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle
- Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
- Creu Cynnwys Digidol ar gyfer Ymgysylltu
- Hygyrchedd Digidol.
Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
- Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 2 (Dau ddiwrnod)
- Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 3 (Pum niwrnod)
- Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes
- Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes.
Tystysgrif presenoldeb
Dewch â'ch gliniadur eich hun os yn bosibl er mwyn cofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gennych liniadur, gallwn ni ddarparu un.