Diwrnod Darganfod Digidol – Cydweithio a Chyfathrebu
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r Diwrnod Darganfod Digidol yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella sgiliau cydweithio a chyfathrebu gan ddefnyddio offer digidol yn y gweithle ac mewn lleoliadau addysgol.
Mae’n gyfle i archwilio offer fel Microsoft Teams, Canva Whiteboards, Padlet, Mentimeter a Microsoft Loop, gan ddysgu beth yw eu swyddogaeth a sut y gellir eu defnyddio yn effeithiol.
Mae'r sesiwn yn cyfuno arddangosiadau, arbrofion a thrafodaethau, gan roi syniadau ymarferol i ddysgwyr fel y gallant wella sgiliau gwaith tîm, ymgysylltu â chydweithwyr neu fyfyrwyr, a rheoli tasgau cydweithredol yn fwy effeithlon.
Gwybodaeth allweddol
Gwybodaeth am ddefnyddio offer digidol.
Cyflwynir y cwrs drwy weithdy ymarferol a rhyngweithiol.
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn yn y bore dan arweiniad tiwtor, gan archwilio amrywiaeth o offer digidol
Yn y prynhawn, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol, gan rannu profiadau, archwilio beth sydd wedi gweithio'n dda, trafod heriau, a gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion ac arferion ar gyfer defnyddio'r offer hyn yn effeithiol yn y byd go iawn.
Cyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
- Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle
- Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
- Creu Cynnwys Digidol ar gyfer Ymgysylltu
- Hygyrchedd Digidol.
Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
- Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 2 (Dau ddiwrnod)
- Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 3 (Pum niwrnod)
- Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes
- Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes.
Tystysgrif presenoldeb
Dewch â'ch gliniadur eich hun os yn bosibl er mwyn cofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gennych liniadur, gallwn ni ddarparu un.