Yn ddiweddar. Cafodd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe gyfle unigryw i gymryd rhan yn Mix Up! - platfform digidol wedi’i gynllunio i drafod pynciau sydd â themâu penodol. Fe wnaethon nhw ymgysylltu â chyfoedion o’r Iseldiroedd, y Ffindir, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal a Sbaen. Pwnc y mis hwn oedd Hawliau Dynol, a ddewiswyd i ddathlu’r Datganiad Hawliau Dynol, a lofnodwyd gan y Cenhedloedd Unedig ar 10 Rhagfyr 1948 i atal erchyllterau’r Holocost rhag digwydd eto.
Lansiwyd MixUp! i annog myfyrwyr o wahanol wledydd, cefndiroedd a safbwyntiau i drafod materion penodol. Mae’r prosiect yn bennaf yn addas ar gyfer dysgwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) 16-18 oed, ac mae'n hybu ymgysylltiad gweithredol ag addysg dinasyddiaeth tra hefyd yn darparu ffordd ddefnyddiol i athrawon gyflwyno pynciau cysylltiedig.
Gall myfyrwyr gyrchu platfform MixUp! drwy unrhyw ddyfais sy'n gallu rhedeg y feddalwedd. Yn ystod pob sesiwn bydd dysgwyr yn ymateb i ddatganiadau ar themâu penodol ac yna'n cael eu paru â phartner sydd â safbwynt gwahanol o wlad arall. Mae'r parau'n cymryd rhan mewn trafodaethau un-i-un a redir gan Vox Bot-cynorthwyydd awtomataidd.
Drwy gysylltu myfyrwyr â chyfoedion a allai fod â safbwyntiau gwahanol ar faterion dinesig, mae MixUp! yn helpu i feithrin trafodaethau ystyrlon dan arweiniad y myfyrwyr eu hunain. Mae hefyd yn helpu athrawon i fynd i’r afael â heriau ynghylch ymgysylltu, ac yn helpu dysgwyr i feithrin hyder a chymhwysedd wrth drafod pynciau dinasyddiaeth.
Mae trafodaethau cyhoeddus agored yn bwysicach heddiw nag erioed nawr. Mae’n rhan allweddol o ddemocratiaeth iach ac mae'n caniatáu i unigolion glywed gwahanol safbwyntiau, myfyrio ar eu gwerthoedd eu hunain a datblygu dealltwriaeth o faterion cymhleth.
Disgrifiodd myfyrwyr lleol a rhyngwladol o Goleg Gŵyr Abertawe'r profiad fel un ysbrydoledig, yn enwedig y cyfle i drafod Hawliau Dynol gyda chyfoedion o bob cwr o Ewrop. Maent eisoes yn edrych ymlaen at drafodaethau eraill a fydd yn cynnwys pynciau megis Gwaredu Gwahaniaethu Hiliol a Chydfodolaeth mewn Heddwch.