Skip to main content
Sally Davies, Sarah King and Lorraine Evans

Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol mewn seremoni yn Llundain

Ddoe, dydd Mawrth 2 Rhagfyr, derbyniodd Coleg Gŵyr Abertawe Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2025 yn ffurfiol, i gydnabod ei fenter Trawsnewid Lles yn y Gwaith.

Wedi’i chynllunio gan ymgynghori â staff dan arweiniad Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, Sarah King, fe wnaeth y rhaglen gyflwyno dull tair rhan o ymwybyddiaeth menopos ar draws y sefydliad a oedd yn cynnwys arbenigedd clinigol gan arbenigwyr blaenllaw yn Newson Health, hyfforddiant ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad a’r defnydd o Balance+, ap arloesol sy’n helpu staff i olrhain a rheoli symptomau.

Cyflwynwyd y wobr yn ffurfiol mewn seremoni swyddogol yn Fishmongers’ Hall, Llundain, lle aeth Sarah King, Lorraine Evans, Ymgynghorydd Lles y Coleg, a Sally Davies, Rheolwr Adnoddau Dynol, i dderbyn y wobr gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, y Dywysoges Anne, ar ran y sefydliad.

Daeth y seremoni â sefydliadau arobryn o bob cwr o’r DU ynghyd, sefydliadau sydd wedi dangos effaith eithriadol trwy hyfforddiant a datblygu sgiliau.

Fel derbynnydd Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol am y tro cyntaf, gwahoddwyd y Coleg hefyd i gymryd rhan yn y sesiwn cwrdd a chyfarch unigryw gyda Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol ar ôl y seremoni.

“Roedden wrth ein boddau o gael y gydnabyddiaeth genedlaethol hon,” meddai Sarah King. “Mae’r wobr hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn pobl ac yn dangos yr effaith wirioneddol y gall hyfforddiant o ansawdd uchel ei chael ar unigolion, timau a llwyddiant sefydliadol.”

Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol, a gyflwynir gan Sefydliad City & Guilds, yn dathlu cyflogwyr sy’n dangos rhaglenni hyfforddi eithriadol sydd ag effaith gadarnhaol a mesuradwy. Mae’r enillwyr yn cwmpasu diwydiannau o iechyd a gweithgynhyrchu i dechnoleg, addysg a’r sector elusennol.