Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle anhygoel i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod arddangosfa flynyddol Design 48.
Wedi’i gynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn, datblygwyd Design 48 gan y Coleg mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative gyda’r nod o ysbrydoli dysgwyr a rhoi hwb i’w sgiliau cyflogadwyedd.
Mae hefyd yn ceisio codi eu dyheadau a’u hymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o lwybrau addysgol a gyrfaol sydd ar gael iddynt o fewn y diwydiannau creadigol.
“Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i’n myfyrwyr gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid fel rhan o’u cwrs Coleg ac felly roedden ni’n falch dros ben o gael cynifer o bobl ysbrydoledig iawn yn ymuno â ni eto eleni,” meddai Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Gweledol, Elinor Franklin.
“Ac rydyn ni bob amser yn falch o groesawu cyn-fyfyrwyr fel Fran a Megan yn ôl, a siaradodd mor bositif am eu cyfnod yma ac sydd yn ysbrydoliaeth i’n dysgwyr presennol.”
“Fel aelod balch o Fwrdd Cyflogwyr y Diwydiannau Creadigol, rydyn ni’n wirioneddol awyddus i feithrin talentau, nodi cyfleoedd i bobl ifanc, a darparu hyfforddiant a mentora,” ychwanegodd Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Creadigol, Liz Edwards.
“Diolch yn fawr iawn i’r sefydliadau a’r unigolion a ddaeth i’r Coleg, arwain gweithdai a sesiynau blasu, a darparu profiad mor gadarnhaol i’n dysgwyr wrth iddyn nhw ddechrau meddwl am eu camau nesaf – boed hynny yn brifysgol neu gyflogaeth.”
Ein cyfranwyr Design 48 oedd:
- Aaron Meli, cerddor
- Ben Reynolds, Urban Foundry
- Caroline Lane, Ffilm Cymru
- David Neumann, Coleg Humber (Canada)
- Dr Tyra Oseng-Rees, dylunydd gwydr pwrpasol
- Emma Vaughan, artist
- Fran Williams, artist cain
- Gethin Woolcock, cynhyrchydd a darlithydd cerddoriaeth
- Harry Richmond, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Hasan Kamil, artist graffig
- Ian Simmons, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- ITV
- James Morgan, Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe
- Jane Simpson, GS Artists
- Joe Brown, ymgynghorydd brand - designdough
- Joe Towns, darlledwr (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
- Megan Pilcher-King, dylunydd/darlunydd
- Menna Buss, artist
- Peter Bobby, Prifysgol De Cymru (Caerdydd)
- Rachael Wheatley a Mike Leach, Waters Creative
- Rosie Wylie, Artist Preswyl
- Ryan Patterson, Coleg Humber (Canada)
- Zoe Rushton, Sgil Cymru