Niwroamrywiaeth yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio a dathlu pwysigrwydd gwahaniaethau gwerthfawr yr ymennydd dynol.
Cymerwch gip ar y fideo YouTube hwn gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain i gael rhagor o wybodaeth am niwroamrywiaeth.
Mae rhoi gwybod i ni am dy anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn ni drefnu cymorth ar unwaith.
Yn y Coleg, bydd tîm o bobl yn cefnogi dy anghenion. Byddan nhw’n nodi dy anghenion cymorth a gallai’r cymorth gael ei ddarparu yn yr ystafell ddosbarth neu mewn sesiwn ychwanegol gyda Darlithydd neu Fentor Arbenigol.
Gelli di ddefnyddio’r meddalwedd hwn i dy gynorthwyo i ddarllen testun ysgrifenedig, neu deipio wrth i ti siarad. Mae’n gysylltiedig â dy gyfrif e-bost coleg a gelli di ei defnyddio o bell gartref.
Dylet, os wyt ti am i ni roi cymorth neu drefniadau mynediad arholiad ar waith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae’n bwysig dod ag unrhyw ddogfennau fel Ffurflen 8 neu Ffurflen 9 i ddangos tystiolaeth o’r Trefniadau Mynediad a gest ti yn yr ysgol y gellir eu parhau.
Mae Hyb Cymorth Dysgu ar bob campws sy’n cynnig lle tawel i weithio ac ymlacio yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Mae amrywiaeth o glybiau ar gael hefyd.
Os nad wyt ti wedi dechrau Coleg eto, e-bostia transition@gcs.ac.uk a byddan nhw’n trafod dy anghenion cymorth a dy gyfeirio at y person a all dy helpu orau.
Os wyt ti wedi dechrau dy gwrs, siarada â dyb hyfforddwr dilyniant/tiwtor personol neu unrhyw aelod o’r staff addysgu ar dy gwrs. Gallan nhw dy gyfeirio di neu gelli di alw heibio i’r Hyb Cymorth Dysgu ar dy gampws i gael rhagor o wybodaeth.
Darlithydd arbenigol sy’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth dysgu. Bydd Darlithydd Arbenigol yn cyflwyno ei hun i dy grŵp yn y sesiwn sefydlu ar gyfer pob cwrs. Bydd hyn fel arfer yn digwydd yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Coleg.
Rho wybod i dy ysgol neu dy awdurdod lleol dy fod ti am ddod i Goleg Gŵyr Abertawe a gofyn iddyn nhw anfon copi o dy Gynllun Datblygu Unigol/Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal atom cyn gynted â phosib. Cofia ein gwahodd i dy gyfarfod adolygu fel y gallwn roi cyngor a sicrhau dy fod yn cael y cymorth gorau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Gwna yn siŵr dy fod yn dal i wneud cais i’r Coleg fel y gallwn gyfweld â ti i wneud yn siŵr dy fod wedi dewis y cwrs cywir ar y lefel gywir i ti.
Gwefannau allanol defnyddiol
Isod mae rhestr o wefannau sy’n rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a allai fod yn berthnasol i ti.