Skip to main content
Tîm Buddugol Coleg Gŵyr Abertawe yn mynd i ‘Oscars’ y Proffesiwn Addysgu

Tîm Buddugol Coleg Gŵyr Abertawe yn mynd i ‘Oscars’ y Proffesiwn Addysgu

Bydd tîm e-Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Lundain cyn bo hir ar gyfer ‘Oscars’ y proffesiwn addysgu.

Bydd Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson, sy’n seremoni wobrwyo fawreddog flynyddol, yn cael eu cynnal ar 29 Tachwedd, lle bydd athrawon, darlithwyr, staff cymorth a sefydliadau ledled y wlad yn dod at ei gilydd i ddathlu’r effaith anhygoel y mae addysgwyr yn ei chael ar fywydau ifanc.

Enillodd y tîm e-Chwaraeon Wobr Arian yng nghategori Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn yn gynharach eleni ac nawr maen nhw’n gobeithio ennill Gwobr Aur.

Ers i’r Coleg ddechrau addysgu e-Chwaraeon yn 2020, mae’r tîm wedi hyrwyddo potensial y cymhwyster yn ddiflino ac wedi arddangos y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael i fyfyrwyr. Nid yn unig mae eu hymdrechion wedi newid barn am addysg e-Chwaraeon ond mae eu brand Gwdihŵs CGA hefyd wedi codi proffil y Coleg ar raddfa genedlaethol, gan hybu ymhellach y gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd er mwyn ehangu’r llwybr dysgu i lefel gradd sylfaen.

Mae’r tîm yn gyfrifol am addysgu cymwysterau BTEC Lefel 2 a Lefel 3 mewn e-Chwaraeon. Fodd bynnag, mae eu heffaith yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – mae eu hangerdd a’u hymrwymiad wedi arwain at ddatblygiadau arwyddocaol, gan gynnwys cydweithredu’n agos â’r corff dyfarnu i wella ac ehangu darpariaeth, a dod yn un o’r colegau cyntaf i lansio Diploma Estynedig Pearson mewn e-Chwaraeon.

Maen nhw hefyd wedi meithrin cysylltiadau cadarn â diwydiant, gan gydweithio â sefydliadau megis Williams, Formula 1 a Dallas Fuel i roi profiadau gwerthfawr go iawn i fyfyrwyr yn ogystal â  chyfleoedd cyflogaeth.

Bydd y seremoni ddisglair yn cael ei chynnal yn The Brewery, Canol Llundain, dan ofal cyflwynydd y BBC, Gaby Roslin. 

Am dros chwarter canrif, mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson wedi dathlu arwyr tawel byd addysg. Sefydlwyd y gwobrau gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, y corff sy’n rheoli’r digwyddiad hefyd, ac maen nhw’n tynnu sylw at y gwahaniaeth arbennig y mae athrawon, addysgwyr y blynyddoedd cynnar a staff cymorth yn ei wneud bob dydd. 

Dywedodd Mary Palmer, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu: “Mae pob addysgwr yn haeddu cydnabyddiaeth am yr effaith eithriadol y mae’n ei chael bob dydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gymuned ehangach. Mae ein Gwobrau Addysgu blynyddol yn cynnig cyfle i ddathlu a myfyrio ar waith anhygoel ein haddysgwyr, y rhai sydd nid yn unig yn dysgu gwybodaeth i bobl ifanc, ond hefyd gwerthoedd a gwersi bywyd sy’n eu siapio nhw. Rydyn ni’n llongyfarch yr holl enillwyr eleni ac yn dymuno pob hwyl iddyn nhw cyn seremoni’r DU.”