Datblygwr Meddalwedd Lefel 4 - Cymhwyster
Trosolwg
Bydd cymhwyster Lefel 4 Datblygwr Meddalwedd yn datblygu gwybodaeth uwch a sgiliau ymarferol mewn dylunio, profi, gwella a chodio meddalwedd. Mae hefyd yn cynnwys arferion proffesiynol a diogelwch systemau, sydd yn hanfodol i rôl datblygwr meddalwedd.
Bydd dysgwyr yn ennill y cymhwysedd sydd ei angen i weithio fel gweithwyr proffesiynol TG mewn rolau megis datblygwr meddalwedd, datblygwr gwe, swyddog gweinyddol cronfa ddata a chynlluniwr rhwydwaith.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sy’n gweithio mewn rolau datblygu meddalwedd neu a hoffai weithio yn y rolau hynny.
Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad neu gymwysterau blaenorol mewn TG a hoffai ddatblygu eu sgiliau i lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael Tiwtor/Aseswr dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a ddewiswyd yn addas i’r rolau unigol a sgiliau a gwybodaeth blaenorol. Byddwch yn dysgu yn bennaf o bell trwy Microsoft Teams, gydag ymweliadau â’r gweithle, a sesiynau wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen.
Bydd dyddiadau ac amserau’r hyfforddiant yn cael eu cytuno rhwng y dysgwr a’r cyflogwr i achosi cyn lleied o darfu ag sy’n bosibl ar y sefydliad.
Unedau dewisol
Gallai’r unedau canlynol gael eu haddysgu, a bydd unedau ychwanegol ar gael ar gais:
- Dylunio a datblygu meddalwedd
- Profi a sicrhau ansawdd
- Cynnal a chadw a diogelwch systemau
- Arferion proffesiynol mewn TG.
Asesu
I gwblhau’r portffolio’n llwyddiannus, bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys dogfennau, samplau cod, adroddiadau prosiect a sgrinluniau o waith a wnaed. Caiff y portffolio hwn ei adolygu yn ystod cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda Thiwtoriaid/Aseswyr a’i ddefnyddio at ddibenion asesu.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, offeryn rheoli asesiadau ar-lein gan roi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.
Manteision y cwrs
- Ennill cymhwyster cydnabyddedig
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Gwella sgiliau datblygu meddalwedd uwch
- Profi cymhwysedd mewn TG
- Cefnogi dilyniant gyrfa.