Skip to main content

Datblygwr Meddalwedd Lefel 3 - Cymhwyster

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
21 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd cymhwyster Lefel 3 Datblygwr Meddalwedd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddylunio, datblygu, profi a gwella datrysiadau meddalwedd.

Mae’n cynnwys meysydd hanfodol megis codio, dylunio meddalwedd, diogelwch systemau ac arferion proffesiynol, ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau gan gynnwys datblygwr ochr flaen, ochr gefn, a phentwr llawn, peiriannydd datblygu a gweithrediadau, neu brofwr meddalwedd.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion a hoffai ddechrau neu ddatblygu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.

Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n newydd i’r maes yn ogystal â staff presennol sy’n gobeithio uwchsgilio mewn arferion datblygu modern meddalwedd.

Bydd dysgwyr yn cael Tiwtor/Aseswr dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a ddewiswyd yn addas i’r rolau unigol a sgiliau a gwybodaeth blaenorol.

Byddwch yn dysgu o bell ar Microsoft Teams, gydag ymweliadau â’r gweithle, a sesiynau wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen. Bydd dyddiadau ac amserau’n cael eu cytuno rhwng y dysgwr a’r cyflogwr i osgoi tarfu ar y sefydliad cymaint ag sy’n bosibl.

Unedau

Caiff yr unedau canlynol eu haddysgu fel rhan o’r cymhwyster, a bydd unedau ychwanegol ar gael ar gais:

  • Dylunio a datblygu meddalwedd
  • Egwyddorion codio a rhaglennu
  • Diogelwch systemau
  • Arferion proffesiynol mewn TG.

Asesu

Bydd dysgwyr yn adeiladu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys samplau cod, dogfennau dylunio, canlyniadau profion, a sgrinluniau o waith wedi’u cwblhau. Caiff y portffolio hwn ei adolygu yn ystod cyfarfodydd un-i-un gyda Thiwtoriaid/Aseswyr a’i ddefnyddio at ddibenion asesu.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, offeryn rheoli asesiadau ar-lein gan roi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.

Manteision y cwrs

  • Ennill cymhwyster cydnabyddedig
  • Datblygiad personol a phroffesiynol
  • Gwella sgiliau datblygu meddalwedd uwch
  • Profi cymhwysedd mewn TG
  • Cefnogi dilyniant gyrfa.