Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 4 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 4 yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth uwch i ddysgwyr er mwyn iddynt reoli a chefnogi systemau digidol sy’n cysylltu amgylcheddau ffisegol a rhithwir.
Bydd dysgwyr yn ennill arbenigedd mewn egwyddorion rhwydwaith, caledwedd TG, llywodraethiant gwybodaeth ac arferion proffesiynol.
Nod y cymhwyster yw ateb anghenion rolau seilwaith digidol modern. Cydnabyddir y cymhwyster gan gyflogwyr ledled Cymru.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion sy’n gweithio neu’n gobeithio gweithio mewn rolau fel Gweithiwr Cymorth Technegol TG, Cynllunydd Rhwydwaith neu Beiriannydd Seilwaith.
Mae’n addas i ddysgwyr 16 oed a hŷn sy’n gallu casglu tystiolaeth mewn lleoliad gwaith. Mae’r cymhwyster yn cefnogi gweithwyr newydd a staff presennol sy’n gobeithio uwchsgilio.
Bydd dysgwyr yn cael Tiwtor/Aseswr pwrpasol a fydd yn cydweithio â’r dysgwr a’r cyflogwr i deilwra’r rhaglen i rolau unigol a phrofiad blaenorol.
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn bennaf o bell trwy Microsoft Teams, gydag ymweliadau â gweithleoedd a sesiynau wyneb yn wyneb ar gael os oes angen. Mae amserlenni hyfforddi yn hyblyg ac wedi'u cytuno i leihau tarfu ar y sefydliad.
Unedau dewisol
Rhaid i ddysgwyr gwblhau unedau gorfodol ac ystod o unedau dewisol i gyflawni’r credydau gofynnol.
Mae unedau dewisol yn cynnwys:
- Egwyddorion Seilwaith Rheoli Data
- Profi Systemau TG a Thelathrebu
- Gweithredu System TG
- Cymorth o Bell ar gyfer Cynhyrchion a Gwasanaethau TG
- Gwella Meddalwedd Bresennol.
Asesu
Mae’r asesiad yn seiliedig ar bortffolio, gyda dysgwyr yn casglu tystiolaeth fel dogfennau, sgrinluniau a gwaith prosiect. Mae cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda Thiwtoriaid/Aseswyr yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei olrhain a bod cymorth yn cael ei roi.
Defnyddir Aseswr Clyfar i reoli asesiadau a hwyluso cyfathrebu rhwng y dysgwr, y tiwtor a’r cyflogwr.
Manteision y cwrs
- Cyflawni cymhwyster cydnabyddedig
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Sgiliau seilwaith digidol uwch
- Cymhwysedd TG profedig
- Cefnogi dilyniant gyrfa
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r brentisiaeth hefyd yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif, sy'n uwchsgilio dysgwyr gyda chymwysterau TGAU neu’r cyfwerth mewn Saesneg a Mathemateg os nad ydynt eisoes wedi cyflawni graddau A-C.