Skip to main content

Ysbrydoli,
Arloesi
a Symleiddio

Strategaeth Ddigidol 2026-2030

Trosolwg

Ein nod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw parhau i gael ein cydnabod fel arloeswr digidol. I wneud hyn, byddwn yn adeiladu ar ein sgiliau a’n medrau presennol gan roi mynediad i’n myfyrwyr at dechnolegau modern sy’n ysbrydoli ac yn gwella canlyniadau i bawb.

Nodau’r strategaeth yw:

  • Adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny fel y gall ein dysgwyr, ein staff a’n cymunedau ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy’n eu paratoi ar gyfer y gweithle modern
  • Galluogi mynediad at offer ac amgylcheddau sy’n cyd-fynd a’r rhai ym myd diwydiant
  • Ysbrydoli ein dysgwyr trwy ddulliau addysgu cyffrous newydd
  • Elwa ar sefydliad sy’n effeithlon yn ei weithrediadau, cydgysylltiedig yn ei bensaernïaeth, cynaliadwy yn ei ddull gweithredu, ac sydd â’r gallu i ymateb i’r cyfleoedd sy’n datblygu’n gyflym a gyflwynir gan dechnoleg.

O safbwynt polisi, mae Medr wedi etifeddu Fframwaith Digidol 2030 Llywodraeth Cymru, a gyda chymorth Jisc, byddwn yn parhau i sôn am ein gweithrediad digidol yn unol â’r sbardun cenedlaethol hwn.

Mae Fframwaith Digidol 2030 yn cynorthwyo darparwyr dysgu i weithredu strategaethau blaengar a chefnogi arloesedd. Er mwyn gwireddu’r uchelgais hon, bydd angen i ni sefydlu agwedd gyson at arweinyddiaeth entrepreneuraidd, ac rydym yn ymrwymo i lywodraethu’r strategaeth hon yn unol â hynny.

Rydym yn credu, drwy greu diwylliant digidol yn gyntaf ac ysbryd o gydweithio, partneriaeth, gwydnwch, cynaliadwyedd a rheoli risg, y gallwn wneud y mwyaf o’n hasedau a gwneud gwell defnydd o’n hystâd ddigidol bresennol.

Un o’r blaenoriaethau allweddol fydd aros yn agored i newid, dan arweiniad tîm gweithredol sy’n hyrwyddo ystwythder ac arloesedd. Rydym yn ymrwymedig i ddysgu fel y gallwn wella’n barhaus.

Felly, ble rydyn ni’n dechrau? Mae’r byd digidol ym mhobman, mae’n siapio’r ffordd rydym yn cyfathrebu, yn trafod, yn dysgu ac yn byw ac ni allwn gyflawni effaith os mai trwsio popeth yw ein nod. Felly, rhaid i ni ganolbwyntio ar y pethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Yn syml, rydyn ni eisiau ysbrydoli, arloesi a symleiddio ein defnydd o dechnoleg ddigidol fel bod pob mewnbwn yn cyflawni allbwn ystyrlon i’n dysgwyr, ein staff, ein partneriaid a’n cymunedau.

“Rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer y dyfodol. Fel cenedl, byddwn yn paratoi heddiw i fodloni gofynion sgiliau’r dyfodol fel y gallwn harneisio potensial llawn technolegau datblygol.”

Fframwaith Digidol 2030 Llywodraeth Cymru

Strategic Context

Fel rhan o Gynllun Strategol y Coleg a’n gweledigaeth o Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol a’n cenhadaeth o Drawsnewid Bywydau drwy Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant, mae’r strategaeth ddigidol hon yn anelu at osod Coleg Gŵyr Abertawe fel arweinydd ym maes arloesedd digidol.

Ysgrifennwyd y strategaeth ddigidol hon mewn cyfnod o newid cyflym ym maes arloesedd technolegol, lle mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cyflawni canlyniadau busnes mwy effeithlon ac effeithiol ac yn cael ei gynnwys fwyfwy yn yr offer a’r technolegau a ddefnyddiwn bob dydd. Mae AI yn newid yn sylweddol y ffordd rydym yn ymgymryd â’n swyddi ac mae’n llywio’r gofynion sgiliau digidol i fod yn gynhyrchiol mewn gwaith ar draws pob diwydiant a sector.

Felly, rhaid i ni sicrhau bod gan ddysgwyr a staff yr wybodaeth ddigidol a’r aeddfedrwydd i ddeall rôl AI, ac i allu ei ddefnyddio’n foesegol ac yn gyfrifol, ni waeth beth yw eu cwrs astudio, eu camau nesaf neu’r rolau a gyflawnir.

Ond, nid AI yn unig yw hyn. Mae byd gwaith yn gofyn am gyfres o alluoedd digidol a bydd angen y rhain ar weithwyr a’r rhan fwyaf o rolau swyddi sy’n cynnwys dadansoddeg, gwybodaeth a seiberddiogelwch, cydweithio o bell, hygyrchedd, cyfrifiadura cwmwl a llawer mwy.

Drwy gydweithio’n agos â byd diwydiant, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, a thrwy ddeall gwybodaeth am y farchnad lafur yn llawn ym mhob haen o’r Coleg, gallwn fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau digidol,

manteisio ar fanteision technoleg fodern, a sicrhau bod dysgwyr yn ychwanegu gwerth ystyrlon at dwf economaidd y rhanbarth a Chymru.

Mae Fframwaith Strategol Digidol 2030 Llywodraeth Cymru yn ein hannog i feddwl ymlaen, gan alluogi pob darparwr dysgu i ymgysylltu â’r agenda hollbwysig hon. Mae’n ariannu cyfres o wasanaethau Jisc sy’n caniatáu’r adnoddau i ni feddwl yn strategol am ein defnydd o dechnoleg ac sy’n rhoi’r cymorth i ni weithredu’n effeithiol. Rhaid i’r Coleg fanteisio ar y buddsoddiadau hyn felly a gwneud mwy i bob dysgwr. Yn ogystal, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol ar gyfer twf mewn diwydiannau digidol ledled y rhanbarth, a rhaid i ni sicrhau gweithlu sy’n darparu ar gyfer y tueddiadau newidiol hyn.

Ein Gweledigaeth

Bod yn arweinydd cydnabyddedig ym maes arloesedd digidol, gan gynnig darpariaeth gyffrous, ysbrydoledig sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, sy’n codi ansawdd dysgu ac addysgu, ac sy’n gwella addysgeg ddigidol gan roi’r sgiliau digidol angenrheidiol i’n dysgwyr, ein staff, ein partneriaid a’n cymunedau ar gyfer gwell dilyniant a chyflogadwyedd.

Byddwn yn ysbrydoli ein pobl, yn arloesi ein harferion ac yn symleiddio popeth a wnawn.

Ein Dull Gweithredu

Arloesi ac arwain drwy alluogi digidol, gan greu diwylliant digidol yn gyntaf

Byddwn yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig ar gyfer sgiliau digidol, gan arwain y sector mewn gallu digidol, gan gynorthwyo ein pobl i ymgysylltu a chydweithio â’i gilydd, a byd diwydiant, i sicrhau mantais gystadleuol. Hyd yn oed lle nad digidol yw’r ateb cywir, byddwn yn datblygu diwylliant o ystyried digidol yn gyntaf.

Ymgorffori cymwysterau sy’n canolbwyntio ar ddigidol a chyfleoedd cyflogadwyedd drwy gydol taith y dysgwr

Byddwn yn datblygu cymunedau ac amgylcheddau dysgu newydd sy’n meithrin rhagoriaeth mewn arferion digidol, dylunio cyffredinol a chynaliadwyedd. Byddwn yn cynorthwyo dysgwyr yn ystod y cyfnod pontio ac yn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau sgiliau digidol ar bob lefel ar draws ein staff a’n cymunedau.

Ysbrydoli dysgwyr a staff gan sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel drwy ddulliau effeithiol y gellir eu haddasu

Byddwn yn annog, yn galluogi ac yn cefnogi’r defnydd o dechnolegau newydd a datblygol, gan ddatblygu staff a dysgwyr sy’n ddigidol gymwys, cyfoethogi’r profiad dysgu ac ehangu cyfranogiad.

Byddwn yn ymgorffori dulliau addysgu digidol sy’n gwella ymgysylltiad, cymhelliant a chanlyniadau dysgwyr, gan ddefnyddio offer nid yn unig i addysgu cynnwys ond i wella asesu, adborth, cydweithredu a chynhwysiant.

Llywio perfformiad busnes drwy ddata a dadansoddeg ar draws y sefydliad

Byddwn yn cyflawni gweithrediadau busnes mwy effeithlon ac effeithiol drwy sefydlu diwylliant lle defnyddir data a dadansoddeg i ychwanegu gwerth at bopeth a wnawn.

Symleiddio systemau a chryfhau diogelwch ar draws pob platfform

Byddwn yn rhesymoli systemau ac yn gwella integreiddio i wella defnyddioldeb a diogelwch ein hystâd ddigidol bresennol.

Datblygu dysgu ac addysgu drwy addysgeg ddigidol ac arloesedd moesegol

Byddwn yn defnyddio technoleg fel cyfrwng i wella ansawdd addysgu drwy ddefnydd wedi’i dargedu o gymwysiadau megis platfformau dysgu addasol, offer adborth â chymorth AI ac amgylcheddau cydweithredol amser real. Byddwn yn personoli dysgu, yn meithrin creadigrwydd ac yn gwneud dysgu’n fwy cynhwysol.

Cyfeiriadau Strategol

Cynaliadwyedd Coleg sy'n ymrwymedig i ddatblygu arferion cynaliadwy Pobl a Lles Coleg sy'n canolbwyntio ar bobl a lles Partneriaethau Coleg sy'n datblygu partneriaethau strategolerbudd ein dysgwyr a'n cymunedauProfiad y Dysgwr Coleg sy'n darparu profiad rhagorol i'r dysgwr ynghyd ag addysg, sgiliau a hyfforddiant o ansawd uchel Ansawdd

Cyfeiriadau Strategol

Ysbrydoli

Drwy brofiad a chymorth ardderchog i ddysgwyr

Byddwn yn cyflwyno dysgwyr i dechnolegau modern a datblygiadau arloesol newydd, sy’n cyd-fynd ag anghenion busnes, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i ddysgu a thyfu mewn amgylchedd cefnogol.

Drwy opsiynau a chanllawiau cyflogadwyedd rhagorol

Byddwn yn nodi cyfleoedd i wella ansawdd, ehangu cyfranogiad a chyflwyno cwricwlwm mwy hygyrch drwy ddulliau addysgu ar-lein, hybrid a chyfunol.

Symleiddio

Ein data a dadansoddeg

Byddwn yn symleiddio mynediad at ddata, gan sicrhau diogelwch arferion trin data ac effeithlonrwydd rheoli data, adolygu pob cam o gasglu, storio, adrodd a defnyddio data, gweithredu’r atebion mwyaf effeithiol i lywio penderfyniadau effeithlon a hynod effeithiol ar draws pob haen o’r busnes.

Ein seilwaith a’n systemau TG

Byddwn yn adolygu ein systemau mewnol i archwilio’r cydbwysedd cywir rhwng atebion pwrpasol a masnachol. Byddwn yn anelu at leihau dyled dechnegol, hwyluso gwaith cynnal a chadw, gwella integreiddio, diogelwch a phrofiad y defnyddiwr. Byddwn hefyd yn adolygu ein strwythurau i sicrhau y gall staff a myfyrwyr gael mynediad hawdd at hyfforddiant sgiliau digidol a chymorth ehangach.

Arloesi

Drwy ddarparu dulliau addysgu hyblyg o ansawdd uchel

Byddwn yn nodi cyfleoedd i wella ansawdd, ehangu cyfranogiad a chyflwyno cwricwlwm mwy hygyrch drwy ddulliau addysgu ar-lein, hybrid a chyfunol.

Byddwn hefyd yn buddsoddi yn natblygiad addysgegol staff i sicrhau bod technoleg yn ategu dylunio dysgu o ansawdd uchel, dulliau dysgu gweithredol ac adborth amser real.

Drwy bartneriaethau sy’n fuddiol i bawb

Byddwn yn meithrin cysylltiadau cynaliadwy â chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau ein bod yn ymateb i’w tueddiadau a’u bylchau sgiliau digidol heddiw ac yfory.

Ble byddwn ni ymhen pum mlynedd?

Rydym yn credu y gallwn wneud mwy a mynd ymhellach, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous ac arloesol i ddysgwyr a staff, wedi’u cyfoethogi â thechnolegau modern, adnoddau digidol a phrofiadau digidol o’r byd go iawn. Bydd hyn yn sbarduno canlyniadau rhagorol ac yn mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau digidol yn lleol, yn rhanbarthol ac ar raddfa genedlaethol. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Medr, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid technoleg blaenllaw, byddwn yn ceisio cyflawni’r amcanion canlynol.

5 years graphic
tick icon

Ymgorffori diwylliant digidol yn gyntaf lle mae pob aelod o staff yn chwilio am atebion digidol fel man cychwyn, gan gydnabod y cyfle i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd yn agosach â sut maen nhw’n profi’r byd o’u cwmpas, tra hefyd yn defnyddio technoleg i wneud eu gwaith yn haws ac yn fwy gwerth chweil.

tick icon

Sefydlu’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol fel consortiwm o ddarparwyr dysgu a diwydiant yn gweithio ar y cyd, gan gyflwyno hyfforddiant a sgiliau wedi’u targedu sy’n mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau digidol, a chefnogi twf economaidd ledled Cymru.

tick icon

Datblygu modelau addysgu hyblyg sy’n cynnwys dulliau dysgu ar-lein, hybrid ac o bell i ehangu cyfranogiad, cefnogi twf ac ymestyn cyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel.

tick icon

Defnydd estynedig o’r Pecyn Cymorth Hyfforddiant Sgiliau Digidol a chyflwyno llwybrau datblygu staff wedi’u teilwra i uwchsgilio ac ymgysylltu â thechnolegau newydd a datblygol, mewn cydweithrediad â Jisc a phartneriaid diwydiant.

tick icon

Lansio rhaglen arloesi lle gall staff ymgysylltu â thechnolegau newydd a datblygol a’u treialu.

tick icon

Cydgrynhoi’r holl ddata fel bod pob dangosfwrdd yn defnyddio gwybodaeth gyson a dibynadwy, bod penderfyniadau’n seiliedig ar ddata cyson, a bod offer awtomataidd yn helpu i leihau gwallau a risgiau diogelwch.

tick icon

Gwella ein systemau i fod yn fwy diogel, yn gyflymach, yn fwy dibynadwy ac yn haws i’w rheoli. Gwneud pethau’n fwy effeithlon i ddysgwyr a staff.

tick icon

Sicrhau ein henw da fel y Coleg Addysg Bellach blaenllaw yng Nghymru ar gyfer arloesi digidol a datblygu sgiliau digidol, gan roi cyfle i bob dysgwr ac aelod o staff ennill sgiliau digidol a chymwysterau cydnabyddedig yn y diwydiant sy’n darparu mantais gystadleuol heb ei hail.

tick icon

Creu fframwaith dysgu ac addysgu digidol sy’n alinio cymwysiadau, platfformau ac offer AI ag addysgeg sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan hyrwyddo profiadau dysgu creadigol a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

tick icon

Lleihau tasgau gweinyddol ac ailadroddus i staff addysgu trwy offer awtomeiddio clyfar, gan alluogi mwy o amser i ganolbwyntio ar bersonoli dysgu, cymorth i fyfyrwyr ac arloesedd yn y cwricwlwm. Lleihau gwaith gweinyddol ac ailadroddus fydd y nod ar draws swyddogaethau cymorth busnes hefyd.

Gwerthoedd y Coleg

Bydd y strategaeth hon yn cael ei harwain drwy fabwysiadu gwerthoedd y Coleg, sy’n cyfeirio ein dysgwyr, ein staff a’n partneriaid tuag at lwyddiant.

Gwydnwch

BMae bod yn wydn yn golygu bod â meddylfryd cadarnhaol tuag at heriau, bod yn agored i newid a chymryd cyfrifoldeb personol am eich lles eich hun.

Uniondeb

Mae gweithredu ag uniondeb yn golygu bod yn onest ag egwyddorion moesol cryf yn eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Parch

Mae parchu ein gilydd yn golygu trin pobl ag urddas trwy wrando ac ystyried beth sydd gan bobl i’w ddweud ac ymateb mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol.

Arloesedd

Mae bod yn arloesol yn golygu bod yn chwilfrydig ac yn agored i syniadau newydd i ysgogi gwelliant.

Cydweithredu

Mae cydweithredu yn golygu gweithio gyda’ch gilydd fel tîm i gyflawni pwrpas cyffredin.

Mae’r gwerthoedd hyn yn ein hysbrydoli i gynnal safon uchel o ragoriaeth, gan sicrhau y gellir gwireddu’r strategaeth ddigidol wrth Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol.