Skip to main content
Tîm tirlunio yn cystadlu ar gyfer Gwobr Cymru Daclus

Tîm tirlunio yn cystadlu ar gyfer Gwobr Cymru Daclus

Mae’r tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cymru Daclus.

Ers 1990, mae’r Gwobrau, a drefnir gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac wedi’u noddi eleni gan Gymdeithas Tai Wales & West, yn taflu goleuni ar arwyr tawel yr amgylchedd ledled y wlad.

Enwebwyd y tîm yn y categori Natur yn y Gymuned’ ar ôl chwarae rôl enfawr wrth drawsnewid Campws Hill House y Coleg yn hyb ffyniannus o fioamrywiaeth a lles, gan ymgysylltu â phobl ifanc agored i niwed, a defnyddio eu sgiliau i wella mannau cymunedol. 

Mae’r tîm bach yn darparu dysgu arloesol yn yr awyr agored, gan sicrhau bod natur wrth wraidd eu haddysgu.

“Nid yn unig maen nhw’n ysbrydoli dysgwyr i ennill cymwysterau a sgiliau cyflogaeth, ond maen nhw hefyd yn meithrin balchder, gwydnwch a chysylltiad parhaol â byd natur,” meddai Jenny Hill, Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaethau Ysgol. “Mae eu hangerdd yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan lywio prosiectau sy’n cefnogi bioamrywiaeth, yn gwella cynaliadwyedd ac yn creu mannau hardd a rennir.

“Mae ethos y tîm o ofal, ailgylchu ac ailwylltio wedi uno dysgwyr, staff a’n partneriaid cymunedol niferus gan gynnwys Cyngor Abertawe, ysgolion lleol a Phrifysgol Abertawe. Mae eu gwaith wedi helpu myfyrwyr i ffynnu, gan hybu presenoldeb, dilyniant a lles, wrth ddod â bwyd ffres i ddysgwyr a staff a chreu mannau awyr agored sy’n fuddiol i bawb.”

Canolbwyntiodd y tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu ar dir Campws Hill House y Coleg, a oedd wedi gordyfu â phrysgwydd a rhywogaethau ymledol. Dros amser, maen nhw wedi trawsnewid yr ardal hon yn ‘ystafell ddosbarth fyw’.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi creu gwelyau blodau gwyllt a gwrychoedd newydd i helpu peillwyr ac adar, wedi gwneud gwestai pryfed, blychau nythu a dau bwll, wedi plannu perllan ffrwythau, wedi ehangu’r ardd gegin, ac wedi dylunio ystafelloedd dosbarth awyr agored, llwybrau a gardd lles.

“Mae’r myfyrwyr yn gwenu fel giât pan fydd dieithriaid yn canmol eu gwaith,” meddai Jenny. “Mae ein Coleg yn elwa ar amgylchedd gwyrddach a rhoddion cynnyrch ffres, ac mae lles staff hefyd wedi gwella’n aruthrol, gyda chlybiau garddio yn ffynnu yn y mannau newydd hyn. Mae ymroddiad ac angerdd y tîm hwn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y gymuned gyfan.