Skip to main content
Un deg un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cadarnhau lleoedd yn Rhydgrawnt!

Un deg un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cadarnhau lleoedd yn Rhydgrawnt!

Un deg un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cadarnhau lleoedd yn Rhydgrawnt!

Mae 11 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu wrth i’w lleoedd ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt gael eu cadarnhau ar gyfer Medi 2025.

Llongyfarchiadau mawr i’r saith myfyriwr sy’n anelu am Rydychen:

Evie Beck (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sy’n astudio Gwyddor Fiomeddygol yn y Coleg Newydd 
Mia Brown (gynt o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed) sy’n astudio Daearyddiaeth yng Ngholeg Brasenose
Sophie Hill (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sy’n astudio Biocemeg yng Ngholeg Lincoln 
Claudia Croft (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sy’n astudio Seicoleg Arbrofol yng Ngholeg Corff Crist 
Carys Morgan (gynt o Ysgol Gymunedol Cwmtawe) sy’n astudio Cerddoriaeth yng Ngholeg yr Iesu 
Gwinnie Pinnock (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sy’n astudio Hanes yng Ngholeg Caerwrangon 
Milly Walker (gynt o Ysgol Esgob Gore) sy’n astudio’r Gyfraith yn y Coleg Newydd

… a’r pedwar myfyriwr sy’n anelu am Gaergrawnt:

Fran Mackie (gynt o Ysgol Glan y Môr) sy’n astudio Hanes a Sbaeneg yng Ngholeg Churchill 
Violet Williams (gynt o Ysgol Esgob Gore) sy’n astudio Addysg yng Ngholeg y Frenhines 
Alex Mort (gynt o Ysgol Gyfun Treforys) sy’n astudio Peirianneg yng Ngholeg y Brenin
Leah Spackman (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) sy’n astudio Addysg yng Ngholeg Sant Ioan

Roedd y myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg ar Gampws Gorseinon, sydd â’r nod o ddarparu’r paratoadau gorau posibl i’r myfyrwyr sy’n anelu at symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group.

“Dwi wrth fy modd bod 11 o’n myfyrwyr wedi cadarnhau eu lleoedd yn Rhydgrawnt, gan gynnal safle’r Coleg fel un o’r cryfaf yng Nghymru am ddilyniant i brifysgolion blaenllaw y DU,” meddai Dr Emma Smith, Cydlynydd Anrhydeddau CGA/Cydlynydd Hyb Seren Abertawe. “Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n anhygoel o galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn llwyr haeddu eu llwyddiant, ac maen nhw nawr yn gallu dechrau paratoi ar gyfer Rhydychen a Chaergrawnt. Mae cyfnod cyffrous o’u blaenau, a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol!”

Eleni, gwelodd y Coleg gynnydd yn ei gyfradd pasio Safon Uwch gyffredinol, sydd erbyn hyn yn 100% (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 97.5%).

Ymhlith y rhain, cyflawnodd 12% y radd uchaf sef A* (9% yn 2024 ac yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru 10.5%), mae  34% yn raddau A*-A (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 29.5%), mae 65% yn raddau A*-B, ac mae gwelliant parhaus o ran graddau A*-C sydd yn 85%.  

Nodiadau:

Mae Rhaglen Anrhydeddau CGA yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a sesiynau paratoi ar gyfer asesiadau mewn pynciau perthnasol.

Mae dysgwyr sy’n astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth yn mynychu sesiynau ychwanegol sy’n eu paratoi ar gyfer profion derbyn a chyfweliadau cystadleuol. Maen nhw hefyd yn cael cyfleoedd i glywed gan siaradwyr gwadd o amrywiaeth o gwmnïau a chyrsiau prifysgol.

Yn rhaglen Anrhydeddau CGA, mae’r Coleg hefyd wedi integreiddio Academi Seren, menter Llywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyrraedd eu potensial academaidd llawn yng Nghymru, y DU, a thramor.