Skip to main content

Polisi Ffioedd a Thaliadau Is-gontractio Dysgu Seiliedig ar Waith

Dyddiad CyhoeddiMehefin 2025
Dyddiad AdolyguGorffennaf 2026
CychwynnyddCyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith
Cymeradwywyd ganUwch Dîm Arwain - 15 Mai 2025
Fersiwnv8.0
CategoriCyhoeddus

 

In this policy:

1. Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob gweithgaredd y gadwyn gyflenwi a gefnogir gan arian Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer darpariaeth a ariennir yng Nghymru ac Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau (ESFA) ar gyfer darpariaeth a ariennir yn Lloegr neu unrhyw sefydliadau olynol.

2. Cyd-destun

Mae’r polisi yn ofyniad gorfodol y mae’n rhaid iddo fod ar waith cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd is-gontractio o 1 Awst 2017. Ar gyfer blwyddyn contract, bydd angen i’r Coleg gyhoeddi ar ein gwefan ein ffioedd is-gontractiol a’r hyn y mae isgontractwyr yn ei dderbyn.

3. Sail Resymegol dros Is-gontractio

Mae’r Coleg yn ymgysylltu ag is-gontractwyr er mwyn ateb anghenion cwsmeriaid yn well ac i wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cyrraedd dysgwyr â blaenoriaeth yn y gymuned ac sy’n gallu dangos canlyniadau cadarnhaol o ran dysgu a chyflogaeth
  •  Rhoi mynediad i amrywiaeth newydd o gwsmeriaid ac ymgysylltu â nhw
  • Helpu darparwr arall i ddatblygu gallu/ansawdd
  • Rhoi darpariaeth ychwanegol pan fyddai’r gost o ddatblygu darpariaeth uniongyrchol yn anghynaladwy
  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cynnig blaenoriaethau penodol i’r sector gan gefnogi agendâu sgiliau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd pob is-gontractwr yn agored i broses diwydrwydd dyledus y Coleg. Bydd isgontractwyr llwyddiannus yn dod yn rhan o Dîm Darparu Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg a bydd y Coleg yn eu hystyried yn Ddarparwyr Allanol.

4. Sicrhau Ansawdd a Chymorth a Roddir i Is-gontractwyr

Mae ansawdd darpariaeth yr is-gontractwyr yn cael ei fonitro a’i reoli’n ofalus trwy brosesau a gweithdrefnau presennol y Coleg.  Mae is-gontractwyr a chyfadrannau yn cael eu cynnwys yng nghyfarfodydd DSW Grŵp Datblygu Ansawdd y Coleg, ac mae ein holl bartneriaid yn gorfod cymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu. Mae’r Coleg yn darparu hyfforddiant i staff is-gontractio ar gais gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Gofynion y contract a’r corff ariannu
  • Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i staff partner
  • Defnyddio e-bortffolio a systemau gwybodaeth e-reoli
  • Mynediad i adnoddau a deunyddiau dysgu, gan gynnwys llyfrgell a gwasanaethau cymorth lles y coleg
  • Cyfranogiad ym mhroses y Coleg ar gyfer arsylwi ar ddysgu, addysgu ac asesu
  • Cyfranogiad ym mhroses y Coleg ar gyfer hunanasesu, cynadleddau Dysgu Seiliedig ar Waith blynyddol y coleg a seremonïau gwobrwyo prentisiaid
  • Mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant mewn swydd a ddarperir gan y Coleg e.e. hyfforddiant SAR a Smart Assesor
  • Monitro cyfarwyddyd cychwynnol, asesu, darpariaeth rhaglenni dysgu a thargedau cysylltiedig.

Bydd staff y Coleg yn ymweld ag is-gontractwyr yn rheolaidd a byddant yn darparu cyngor ar gynllunio’r cwricwlwm a diweddariadau ynghylch ariannu. Bydd archwiliadau ansawdd yn cael eu cwblhau a bydd adborth yn cael ei ddarparu gan roi blaenoriaeth i ddarparwyr newydd neu ddarparwyr lle bu pryder penodol ynghylch eu perfformiad. Bydd sesiynau cymorth ar feysydd megis cydraddoldeb ac amrywiaeth, cofnodi data, cydymffurfiad deddfwriaethol a Fframweithiau Arolygu Estyn ac Ofsted yn cael eu darparu ar gais neu fel gweithgaredd grŵp.

Darperir cymorth i is-gontractwyr trwy fonitro ac olrhain cynnydd dysgwyr yn ofalus gan ddefnyddio systemau’r Coleg ac adolygu perfformiad contractau yn barhaus. Yn ogystal, mae'r Coleg yn helpu’r is-gontractwr i fodloni gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb, gan leihau'r cwynion a'r cyfraddau tynnu’n ôl trwy gyfres o gysylltiadau uniongyrchol â'r dysgwyr a chyflogwyr trwy alwadau dilysu dysgwyr, arolygon cyflogwyr a dysgwyr. Mae canlyniadau'r gweithgaredd hwn yn cael eu rhannu’n agored a’u monitro i gefnogi gwelliannau.

5. Ystod Ffioedd Canran

Mae’r Coleg yn cadw ffi rheoli sy’n talu cyfran o’r costau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â gweithredu a sicrhau ansawdd darpariaeth is-gontractwyr ac sy’n darparu cyfraniad tuag at gostau anuniongyrchol megis cyllid, cymorth i fyfyrwyr, TG a chostau cymorth cwricwlwm eraill.

Yr ystod ffioedd canran a gedwir gan y Coleg yw rhwng 15% a 20%. Mae cyfradd y ffi yn ystyried lefel galluedd a sgiliau’r contractwr, a’r risg a asesir trwy’r broses diwydrwydd daladwy.

Os yw’r is-gontractiwr yn un o is-gwmnïau’r Coleg, bydd proses gyllidebu blynyddol y Coleg yn pennu cost y gwasanaeth. Mae hyn yn adlewyrchu’r is-gwmni fel un o unedau busnes y coleg, ac o’r herwydd, codir tâl canolog ar gyfer gwasanaethau megis llywodraethu, ansawdd a chydymffurfiaeth.

6. Telerau Talu

Bydd y Coleg yn talu’r is-gontractwr o fewn 30 diwrnod o dderbyn hawliad dilys am dâl neu anfoneb. Bydd taliadau fel arfer yn dilyn cyflwyniad y Cofnod Dysgu Unigol (CDU) a derbyn yr Adroddiad Deiliadaeth (Adroddiad Arian y Darparwr) gan y Coleg.

Ni fyddwn yn talu os yw dysgwr yn aros ar y rhaglen ond nid oes unrhyw dystiolaeth ohono yn derbyn dysgu am gyfnod o 12 wythnos.

7. Rhoi Gwybod am Bolisi Ffioedd y Gadwyn Gyflenwi

Cyhoeddwyd y polisi hwn ar fewnrwyd y Coleg yn www.gcs.ac.uk/cy/policies-and-procedures. Gellir ei anfon at yr holl is-gontractwyr ar gais.

Caiff y polisi ei drafod â darpar is-gontractwyr yn ystod y broses diwydrwydd dyledus a chontractio. Bydd y Coleg yn cyflwyno ffurflenni datgan is-gontractwyr yn rheolaidd i ESFA a chyhoeddi rhestr lawn o ddarparwyr gydag is-gontractwyr gan gynnwys:

  • Enw’r is-gontractwr
  • UKPRN
  • Dyddiad dechrau a gorffen y contract
  • Math o ddarpariaeth
  • Cyllid
  • Cyfanswm incwm y Coleg
  • Cyfanswm a delir i’r is-gontractwr
  • Cyfanswm a gedwir yn y ffi rheoli.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Coleg gyflwyno ffurflenni is-gontractwr yn yr un modd ag ESFA. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i gadw is-gontractau gwreiddiol wedi’u llofnodi a chofnodion diwydrwydd dyladwy ar gyfer pob is-gontractwr a ddefnyddir ar gyfer darpariaeth dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

8. Adolygu’r Polisi

Caiff y polisi hwn ei ddiweddaru’n flynyddol yn unol â diweddariadau gan ganllawiau ariannu ESFA a chaiff ei adolygu ym mis Gorffennaf 2026.

Cadarnheir y polisi hwn gan Fwrdd Corfforaeth y Coleg (Corff llywodraethu’r Coleg).

9. Yr Iaith Cymraeg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Gower College Swansea is committed to the promotion of the Welsh language, in accordance with the Welsh Language Standards and the Welsh Language (Wales) Measure 2011.

This policy is also available in English