Skip to main content

Gwneud Siaced Gwiltiog (Cwrs Gwnïo)

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu sut i gynllunio a gwneud siaced gwiltiog. Byddwch chi’n dysgu technegau cwiltio amrywiol, gan ddefnyddio troed gerdded a throed mudiant-rhydd i gyflawni gweadau a phatrymau amrywiol. 

Yn ogystal â phwytho, byddwch chi hefyd yn dylunio ac addasu, gan ddysgu sut i gynllunio patrwm border syml a’i ymgorffori yn nyluniad terfynol eich siaced. Byddwch chi’n archwilio technegau addurno cyffrous fel appliqué a chlytwaith i wneud eich prosiect yn wirioneddol unigryw. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych siaced gwiltiog wedi’i chrefftio’n hardd at eich chwaeth sy’n adlewyrchu’ch steil unigol.

Gallwch ddewis defnyddio patrwm masnachol, dod â’ch cynllun patrwm eich hun neu ddefnyddio bloc a wnaed ymlaen llaw fel y sylfaen ar gyfer eich cynllun.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o wnïo a gwneud dillad ond sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a dysgu technegau newydd.

Gwybodaeth allweddol

Mae disgwyl i chi fod â rhai sgiliau gwnïo peiriant a phrofiad o wneud dillad syml er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, ond bydd technegau newydd yn cael eu dangos yn llawn o’r dechrau.

Mae dosbarthiadau’n digwydd yn ein stiwdio gwnïo a chynllunio gyfeillgar, fach ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad i amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymlaciol ond ysbrydoledig.  

Bydd yr holl ddefnyddiau’n cael eu darparu ar y dechrau i’ch rhoi ar ben y ffordd, er bydd disgwyl i chi ddarparu’ch defnyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu’ch prosiect eich hun.

Dysgu sut i gyfuno’ch sgiliau gwnïo newydd â chlytwaith, appliqué neu frodwaith a sashiko fel y gallwch gynllunio dillad hanfodol sy’n unigryw i’ch steil.

Gallwch symud ymlaen i gyrsiau gweithgynhyrchu dillad eraill hefyd.

Make a Quilted Jacket (Jan Start)
Cod y cwrs: VB081 PLB
08/01/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
10am - 1pm
£70
Lefel 3