Yn ddiweddar, mae myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Kian Lewis-Edwards wedi cwblhau aseiniad profiad gwaith pedwar diwrnod gyda Kier lle enillodd ddealltwriaeth ymarferol o’r diwydiant adeiladu nad yw’n cael ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â Kier i ymgymryd â phrosiect ailddatblygu gwerth £20.6 miliwn ar Gampws Gorseinon, gyda chymorth Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys:
• Cyntedd newydd: Wedi’i dylunio i wella estheteg a hygyrchedd, bydd y gofod croesawgar, modern hwn yn fuddiol i fyfyrwyr a staff.
• Ystafelloedd dosbarth ychwanegol a mannau cymdeithasol i fyfyrwyr: I gyfoethogi profiad y dysgwr, bydd y mannau hyn yn gwella profiad y dysgwr, gan ddarparu ardaloedd ysbrydoledig i fyfyrwyr ddysgu a chydweithio ynddynt.
• Gwell system llif traffig: Wedi’i chynllunio i leihau traffig a hwyluso diogelwch ledled y campws
Roedd y profiad yn agoriad llygad i Kian gan godi cwr y llen ar gynllunio prosiect, rheoli adeiladu, ymgysylltu ag isgontractwyr, cydlynu, ac iechyd a diogelwch.
Ar hyn o bryd mae Kian yn astudio cwrs HNC mewn Rheoli Adeiladu yn y Coleg ar ôl cwblhau Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Aeth i’r ffair gyflogadwyedd ar Gampws Tycoch lle cwrddodd ag Amanda Swoboda, rheolwr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn Kier, ac yno roedd yn gallu trafod ei uchelgeisiau gyrfaol.
Dyma’r hyn a ddywedodd am ei brofiad:
“Yn gyntaf, roeddwn i’n nerfus am y profiad a beth allai ei olygu. Ond roedd fy nghamau cyntaf i’r swyddfa yn eithriadol o groesawus. Y person cyntaf wnes i gwrdd ag ef oedd ceidwad y gât, Lucas, ac roedd e’n siriol dros ben ac yn gymorth mawr wrth ddweud wrtha i ble i fynd. Yn dilyn hynny, cwrddais i â rheolwr prosiect y safle, Ian, a’r rheolwr adeiladu, Todd, ac roedd y ddau yn groesawgar iawn.
Fy niddordeb i yw’r agwedd dylunio pensaernïol ar adeiladu, dylunio adeiladau a strwythurau, a gweithio gyda chleientiaid. Fe wnaeth Ian a’r tîm ddangos lluniadau prosiect cynhwysfawr i mi a greoedd argraff fawr arna i. Yn ystod fy more cyntaf, wnes i gwrdd â rheolwr cynorthwyol y safle, Trystan, a wnaeth fy nhywys trwy fy mhrofiad gwaith, a chawson ni ddigon o drafodaethau diddorol am y diwydiant a’r prosiect. Awgrymodd hefyd y dylwn i fynychu cyfarfodydd a sesiynau briffio amrywiol er mwyn deall y prosiect yn well, a’r prosesau oedd yn digwydd.
Ar fy niwrnod cyntaf, dysgais i mai egwyddor arweiniol Kier yw ‘does dim byd mor bwysig fel na allwch dreulio amser i’w wneud yn ddiogel,’ ac yn fuan sylweddolais i fod Kier wir yn cymryd diogelwch o ddifrif! Es i i gyfarfod gydag un o’r is-gontractwyr a ches i’m synnu faint o fesurau sydd yna i’w hystyried ac mai iechyd a diogelwch oedd y flaenoriaeth bennaf.
Wrth i’r diwrnod symud yn ei flaen, trefnodd Trystan a Todd ymweliad â safle, gan ganiatáu i mi ymgynefino â’r prosiect.
Rhoddwyd cyfarpar diogelu personol i mi o flaen llaw, ac roeddwn i’n ddiolchgar am y cyfle i fod yn bresennol ar y safle. Roedd y prosiect yn edrych yn fach o bell ond roedd yn rhyfeddol edrych arno o’r ddaear. Gyda dadansoddiad o’r lluniadau, roeddwn i’n gallu gweld sut olwg fyddai ar y prosiect gorffenedig ac roeddwn i’n gallu gweld y manylion fy hun.
Ar ôl ymweld â’r safle, cwrddais i â rheolwr y tîm dylunio, Ade, ac roedd e’n llawn croeso a llawn gwybodaeth gan ateb fy holl gwestiynau. Roedd cydlyniad y prosiect a’r holl gydweithredu rhwng yr adrannau amrywiol wedi creu argraff fawr arna i. Fe wnaeth Ade ddangos y rhaglenni cydweithredol i mi sy’n cael eu defnyddio gan bawb yn y swyddfa, a doeddwn i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw.
Yn ogystal, wnes i gwrdd â’r syrfëwyr meintiau yn y swyddfa, dan arweinyddiaeth Andrew. Fe wnaethon nhw roi cipolwg i mi ar fesur meintiau, ac roedd yn gymhleth; ond, roedden nhw’n agored i fy nghwestiynau. Ar ôl cymryd llawer o nodiadau gyda nhw a chynnal trafodaethau hir, mae gen i lawer mwy o ddealltwriaeth o ochr ariannol a chyfreithiol byd adeiladu.
At ei gilydd, mae’r profiad wedi rhoi mewnwelediadau amhrisiadwy i mi i arferion iechyd a diogelwch, arferion cynaliadwyedd a’r amgylchedd, cydlynu prosiect, a dulliau adeiladu uwch. Y tu hwnt i sgiliau technegol, fe wnaeth y profiad feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, y gallu i addasu, a meddylfryd rhagweithiol.
Mae hwn yn brofiad yr hoffwn ei gael eto, a dwi’n ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwydiant adeiladu. Mae’n gyfle ac yn brofiad gwerthchweil iawn. Mae Kier yn darparu llawer o gyfleoedd datblygu gyrfa – yr un wnaeth ddal fy sylw i oedd yr amrywiaeth eang o brentisiaethau gradd, felly gwyliwch y gofod hwn!”
***
Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe ddiolch i Kier am estyn y cyfle gwych hwn i Kian. Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn archwilio profiad gwaith anfon e-bost i sustainability@kier.co.uk am ragor o wybodaeth.