Skip to main content
Penodi Ian Price OBE yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Penodi Ian Price OBE yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Arweinydd busnes ac eiriolwr cymunedol enwog o Gymru yn ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Ian Price, a enillodd OBE yn ddiweddar yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei wasanaethau rhagorol i fyd busnes ac elusen, wedi cael ei benodi yn Gadeirydd y Llywodraethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.  

Ac yntau’n dod â degawdau o brofiad arweinyddiaeth ac angerdd am addysg a gwasanaeth cymunedol, mae Ian yn barod i arwain y Coleg i bennod newydd gyffrous. Mae Ian yn olynu Meirion Howells, sy’n camu i lawr ar ôl pedair blynedd.  

Daeth cyfnod dylanwadol Ian fel Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru i ben ym mis Rhagfyr 2024, yn dilyn bron dau ddegawd gyda’r sefydliad, gan gynnwys wyth mlynedd fel Cyfarwyddwr a chyn hynny, fel Dirprwy Gyfarwyddwr ers 2005. Yn y rôl hon, ef oedd y cyswllt hanfodol rhwng busnesau Cymru a llywodraeth, gan ymgysylltu’n rheolaidd â Phrif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac arweinwyr blaenllaw ym myd diwydiant i eirioli dros dwf economaidd ac addysg alwedigaethol.

Ymestynnodd arweinyddiaeth Ian y tu hwnt i’r CBI. Mae wedi cadeirio Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru, gan hyrwyddo pwysigrwydd prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol fel ategiad i addysg prifysgol. Mae ei ymrwymiad i bobl ifanc yn parhau trwy ei rôl newydd fel Cadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a’i gadeiryddiaeth barhaus o’r elusen ieuenctid Vibe Youth.

Wrth fyfyrio ar ei rôl newydd fel Cadeirydd, dywedodd Ian: “Dwi wrth fy modd o ymgymryd â rôl Cadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae addysg bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon, yn enwedig cefnogi llwybrau galwedigaethol fel prentisiaethau sy’n rhoi cyfleoedd go iawn i bobl ifanc. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda chymuned y Coleg i helpu i lunio dyfodol lle gall pob myfyriwr gyrraedd ei botensial.”  

Ychwanegodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni’n falch dros ben o groesawu Ian Price fel ein Cadeirydd newydd y Llywodraethwyr. Mae ei arweinyddiaeth ragorol, ei ddealltwriaeth ddofn o’r dirwedd fusnes yng Nghymru, a’i angerdd am addysg yn golygu ei fod yn benodiad amhrisiadwy i’r Coleg a dwi’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag ef.”

DIWEDD