Skip to main content
 Rheolwr Maes Dysgu, Darren Fountain a'r siaradwr gwadd Carly Stevens.

Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal digwyddiad brecwast i sector y gyfraith

Yn ddiweddar fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe groesawu cyflogwyr o sector y gyfraith i ddigwyddiad brecwast, lle cawsant gyfle i ffocysu ar feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr trwy brentisiaethau. 

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti - canolfan y Coleg ar gyfer cyrsiau cyfrifeg a phroffesiynol - yn gyfle i gyflwyno llwybr Gwasanaethau Cyfreithiol newydd, sydd wedi’i gynllunio i roi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i ddysgwyr fel y gallant symud ymlaen i fod yn baragyfreithwyr neu yn gynorthwywyr cyfreithiol.

Roedd amrywiaeth eang o sefydliadau yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys Capital Law, Morgan LaRoche a Dezrezlegal, ac fe wnaethant dderbyn mewnwelediad gwerthfawr i sut y gall prentisiaethau gyd-fynd â’u strategaethau hyfforddi presennol, gan sicrhau ffrwd gynaliadwy o ddarpar weithwyr dawnus. Cawsant hefyd gyfle i ddysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu timau cyfreithiol yn y dyfodol.

Rhannodd Darren Fountain, Rheolwr Maes Dysgu ar gyfer Busnes a Thechnoleg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe drosolwg eang o’r rhaglen gan nodi ei effeithiau cadarnhaol ar y garfan gyntaf o ddysgwyr:

"Mae llwybr Gwasanaethau Cyfreithiol newydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyfle unigryw ac wedi’i ariannu’n llawn i gyflogwyr fel y gallant fuddsoddi mewn timau cyfreithiol y dyfodol. Fe wnaeth y digwyddiad gynnig cyfle gwych i gyflogwyr ddarganfod mwy am y llwybr hwn i sector y gyfraith - gan hybu gweithwyr presennol a recriwtio prentisiaid newydd er mwyn hyrwyddo opsiynau cynaliadwy o fewn y diwydiant."

Fe wnaeth ein siaradwr gwadd, Carly Stevens - Rheolwr AD Cyfreithwyr JCP - sôn am y profiad cadarnhaol a gafodd ei sefydliad wrth gymryd rhan yn rhaglen y Coleg, gan dynnu sylw at bwysigrwydd siapio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith:

"Mae prentisiaethau yn y gyfraith yn bwysig iawn o ran hybu amrywiaeth o fewn y sector. Maen nhw’n llwybrau gyrfa clir i unigolion o ystod o gefndiroedd, yn enwedig y rhai sy’n wynebu heriau ariannol neu gymdeithasol mewn perthynas â chyrchu addysg draddodiadol neu lwybrau i gyflogaeth. Trwy ddiddymu unrhyw gostau a chynnig dysgu strwythuredig, cefnogol ac ymarferol, mae’r rhaglenni hyn yn sicrhau nad yw sefyllfaoedd ariannol neu bersonol yn atal unigolion rhag cyflawni nodau proffesiynol."

"Mae Cyfreithwyr JCP yn dalch o groesawu ein trydydd grŵp o brentisiaid cyfreithiol ac rydyn ni’n ymrwymedig i’w cefnogi nhw bob cam o’u gyrfaoedd ym maes y gyfraith."

Roedd y digwyddiad yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i gefnogi sector y gyfraith trwy addysg o ansawdd uchel ac wedi’i deilwra a datrysiadau hyfforddi. 

Gall cyflogwyr a gollwyd y digwyddiad ac a hoffent fwy o wybodaeth am y rhaglen e-bostio training@gcs.ac.uk neu ffonio 01792 284400.