Skip to main content
Partneriaeth Coleg a Phrifysgol yn ei blodau

Partneriaeth Coleg a Phrifysgol yn ei blodau

Partneriaeth Coleg a Phrifysgol yn ei blodau

Mae myfyrwyr Tirlunio a Garddwriaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi elwa ar bartneriaeth gwaith unigryw gyda Phrifysgol Abertawe dros y misoedd diwethaf.

Bu’r dysgwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm Cynnal a Chadw Tiroedd ar Gampws Singleton i gyflawni amrywiaeth o dasgau ymarferol megis gosod tyweirch, chwynnu, paratoi gwelyau blodau, dyfrio a phlannu blodau mewn cynwysyddion ar gyfer arddangosfa dymhorol.  

Un agwedd arbennig o gyffrous ar y prosiect yw gweld y myfyrwyr yn helpu gyda’r gwaith o adfywio Gerddi Abaty. Yma, maen nhw wedi gweithio ochr yn ochr â staff y Brifysgol i gael gwared ar yr hen blanhigion a pharatoi a gwella’r gwelyau. Maen nhw hefyd wedi cwblhau cynllun plannu sy’n cynnwys  daliahs, pabïau addurniadol, cedorwydd, melyn Mair a chlychlys, i enwi ychydig.

Nid yn unig bydd y gwelyau hyn yn edrych yn drawiadol dros fisoedd yr haf ond byddan nhw hefyd yn darparu neithdar a phaill hanfodol i wenyn a phili-palas.  

“Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn wych oherwydd mae wedi rhoi cyfle unigryw i’r myfyrwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes garddwriaeth, i gydweithio ar brosiectau ystyrlon sy’n gwella’r Brifysgol i bawb,” meddai Arweinydd y Cwricwlwm Paul Bidder.

“Mae wir wedi rhoi hwb i’w hyder - maen nhw wedi ymfalchïo yn y gwaith hwn dros y misoedd diwethaf ac yn awyddus i ddychwelyd i’r Brifysgol bob tro fel y gallan nhw wneud mwy o gynnydd. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am roi’r cyfle cyffrous hwn i’n dysgwyr a gobeithio y bydd yn parhau yn y dyfodol.”

Dywedodd Ben Lucas, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwasanaethau Masnachol a Champws ym Mhrifysgol Abertawe: 

“Rydyn ni’n falch dros ben o gefnogi’r bartneriaeth hon gyda Choleg Gŵyr Abertawe ac o groesawu’r myfyrwyr i Gampws Singleton. Mae wedi bod yn fendigedig eu gweld nhw yn gweithio ochr yn ochr â’n tîm Cynnal a Chadw Tiroedd a chyfrannu cymaint at waith cadwraeth ein Gerddi Abaty hanesyddol.

“Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu blaenoriaethau ein cenhadaeth ddinesig – sef bod yn brifysgol ar gyfer y rhanbarth a gwneud ein gofodau yn agored a hygyrch i bawb. Rydyn ni’n falch bod ein tiroedd hardd, sydd ag achrediad Baner Werdd, yn gallu darparu amgylchedd dysgu ystyrlon i’r myfyrwyr garddwriaeth, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw – rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y berthynas agos hon gyda’r Coleg yn y dyfodol.”