Skip to main content
Myfyriwr yn ennill gwobr adolygu llyfrau genedlaethol

Myfyriwr yn ennill gwobr adolygu llyfrau genedlaethol

Llongyfarchiadau i un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, Daisy Squire, ar ennill cystadleuaeth adolygu llyfrau cenedlaethol a gynhaliwyd gan New College, rhaglen Step Up Rhydychen.

Bwriad Step Up yw ysbrydoli a helpu myfyrwyr Ysgolion Gwladol blwyddyn 11, 12, ac 13, gan geisio sicrhau bod myfyrwyr yn cydnabod Rhydychen fel dewis realistig. Mae’r rhaglen hefyd yn eu paratoi ar gyfer gwneud cais. 

Mae Daisy, sydd ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau Safon uwch mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg, yn aelod o Raglen Anrhydeddau CGA, sy’n cynnig cyfoethogi academaidd a chymorth i fyfyrwyr 16-18 oed sy’n dymuno gwneud cais i astudio ym mhrifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU a thu hwnt. 

Cafodd ei hannog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Gydlynydd Rhaglen Anrhydeddau CGA a Chydlynydd Hwb Seren Abertawe, Dr Emma Smith. Fel rhan o’r dasg roedd angen i Daisy greu adolygiad 250 gair am un o'r llyfrau ar restr ddarllen Prifysgol Rhydychen.

Dewisodd Daisy Life’s Vital Link gan Y.W Loke, sef llyfr sy’n archwilio esblygiad a phwysigrwydd y brych fel organ a’r gwahaniaethau rhwng rhywogaethau. Mae’r llyfr hefyd yn nodi pwysigrwydd y brych mewn perthynas â gwella ein dealltwriaeth o ganser.

“Dyma lyfr diddorol ac rwy’n ei argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gofal iechyd neu’r anatomeg ddynol,” meddai Daisy, sy’n bwriadu astudio meddygaeth a dod yn feddyg.

“Roeddwn i’n falch iawn o ennill a braint o’r mwyaf yw darganfod mai fi yw’r myfyriwr cyntaf o Goleg Gŵyr Abertawe i ennill y gystadleuaeth hon. Dw i’n lwcus iawn fy mod wedi cael cyfle i ddarllen llyfr mor rymus, gan gynrychioli’r Coleg mewn cystadleuaeth o’r radd flaenaf. Bydda i’n darllen rhagor o lyfrau o’u rhestr ddarllen yn ystod yr haf!

Dywedodd Shelby Holmes, Swyddog Allgymorth yn New College:

“Tasg heriol oedd dewis enillydd gan ein bod wedi derbyn nifer o geisiadau rhagorol. Llongyfarchiadau i Daisy ar sicrhau’r safle cyntaf! Roedd ei hadolygiad yn wych ac yn braf i’w ddarllen.”

Diolch i ddawn Daisy mewn creu dadansoddiadau beirniadol, bydd y Coleg yn derbyn 15 o lyfrau oddi ar restr ddarllen prifysgol Rhydychen.