Skip to main content

Help i Lenwi Ffurflenni – Sesiwn Blasu Am Ddim

Rhan-amser
Gowerton Library, Gorseinon Library, Morriston Library
Dwy awr

Ffôn: 01792 284021   E-bost: abe@gcs.ac.uk

Trosolwg

Dysgwch sgiliau hanfodol ar gyfer llenwi ffurflenni papur ac ar-lein yn hyderus ar y cwrs blasu dwy awr hwn am ddim. Mae’n berffaith i’r rhai:

  • sy’n cael ffurflenni yn llethol ac yn ddryslyd
  • sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus gyda cheisiadau ar-lein
  • sydd angen cymorth i ddeall terminoleg ffurflenni cyffredin
  • a hoffai ddysgu tips a llwybrau byr defnyddiol.

Yn y gweithdy cyfeillgar, cefnogol hwn, byddwch chi’n:

  • ymarfer llenwi mathau cyffredin o ffurflenni
  • dysgu strategaethau defnyddiol ar gyfer mynd i’r afael â cheisiadau cymhleth
  • dod yn gyfforddus wrth lywio ffurflenni ar-lein
  • gofyn cwestiynau mewn amgylchedd ymlaciol.
  • Does dim angen profiad. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad.

Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a bydd yn seiliedig ar anghenion a nodau’r dysgwr unigol.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’n dosbarthiadau AGORED Cymru am 10 wythnos neu ddosbarthiadau Sgiliau Hanfodol Cymru am 30 wythnos i barhau i wella’ch hyder a’ch sgiliau.

Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.

Cwrs blasu dwy awr am ddim.

Off