Bu staff a myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn herio’r gwres a’r heulwen yn cymryd rhan yn y pedwerydd Duathlon Amlchwaraeon AB ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Mae’r digwyddiad neilltuol hwn yn rhan o fenter amlchwaraeon AB Colegau Cymru ac mae’n rhoi cyfle i bobl o bob lefel ffitrwydd gymryd rhan mewn digwyddiadau cystadleuol ac egnïol.
Roedd y cyfranogwyr yn amrywio o ddysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn mwynhau sialens gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf i fyfyrwyr a staff yn cystadlu ar lefel elit.
Gyda thros 40% o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, mae’r Duathlon yn darparu ymagwedd gwbl cymhwysol at chwaraeon ar lefel addysg bellach.
Eleni, cystadlodd 36 aelod o staff yn y Duathlon gyda chanlyniadau anhygoel yn nigwyddiad cystadleuol y prynhawn. Daeth Sion Cairns o’r adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ail a Gerard Morgan o’r adran Beirianneg yn drydydd.
Rhaid rhoi sylw arbennig i’r darlithydd Laura Borelli a gymerodd amser allan o’i habsenoldeb mamolaeth i gymryd rhan – Laura oedd y rhedwraig gyflymaf ar y diwrnod a daeth y swyddog lleoliadau gwaith Sherelle Jermin yn agos y tu ôl iddi.
Roedd yr adborth gan staff yn gadarnhaol iawn - “Diwrnod gwych” - “Diolch, wnes i joio mas draw” - “Diwrnod bendigedig, cafodd fy ngrŵp tiwtora amser gwych hefyd”.
Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd a diolch i bawb a’u cefnogodd – gobeithio bydd hyd yn oed fwy o staff yn cymryd rhan yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf!