Wrth i dymor yr arholiadau agosáu'n gyflym, siaradon ni â Joshua Jordan, Arweinydd Ymgysylltu â Dysgwyr a Datblygiad Personol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, am systemau cymorth y Coleg, cyngor gwych ar adolygu, a pham na ddylet ti byth ddiystyru lles yn ystod y cyfnod prysur hwn.
C: Dyweda wrthon ni am dy rôl yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
A: Fi yw'r Arweinydd Ymgysylltu â Dysgwyr a Datblygiad Personol. Dwi'n goruchwylio'r rhaglen diwtorial ac yn trefnu siaradwyr gwadd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd sy'n cyfoethogi profiad ein dysgwyr. Dwi'n rhan o'r tîm Profiad y Dysgwr ehangach, a gyda'n gilydd rydyn ni'n canolbwyntio ar gynnig cymorth, cyfleoedd a phrofiadau sy'n gwella bywyd myfyrwyr, sydd yn hanfodol i ni yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
C: Pa fath o gymorth mae'r Coleg yn ei gynnig i ddysgwyr yn ystod tymor yr arholiadau?
A: A dweud y gwir, rydyn ni'n cynnig cymaint o gymorth, mae'n anodd ei grynhoi! Rydyn ni'n darparu cymorth amrywiol sy'n ateb anghenion dysgwyr lle bynnag maen nhw. Mae hyn yn cynnwys Tiwtoriaid Personol, Hyfforddwyr Cynnydd a darlithwyr sy'n rhoi cymorth yn y dosbarth, yn ogystal â Hyfforddwyr Bugeiliol a Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr sy'n cynnig help personol. Ac mae 'na dîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Llyfrgell, y tîm Lles Egnïol, ac Undeb y Myfyrwyr - sydd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan ddysgwyr bopeth sydd ei angen arnyn nhw.
C: Sut wyt ti'n cefnogi lles myfyrwyr yn benodol?
A: Rydyn ni'n gwybod bod pob dysgwr yn ymdopi â straen yn wahanol - ac mae rhai yn dal i weithio allan beth sy'n gweithio iddyn nhw - felly rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o brofiadau lles. Rydyn ni wedi cyflwyno Cŵn Lles ar y campws, sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ymlacio a chysylltu ag anifeiliaid, ac mae hyn yn gallu lleihau lefelau straen gan dros 30% ar ôl dim ond 15 munud o ryngweithio â nhw*. Rydyn ni hefyd yn rhedeg sesiynau penset VR sy'n cynnig 15 munud o ymlacio dan arweiniad, ac mae ein Harweinydd Lles Egnïol, Louise, yn arwain teithiau cerdded, ioga, a chwaraeon hamdden i helpu myfyrwyr yn ystod seibiau adolygu hollbwysig.
Rydyn ni hefyd yn creu ystafelloedd tawel i ddysgwyr ddianc o leoedd prysur yn y llyfrgell - sy'n ddelfrydol ar gyfer gemau tawel neu gymryd hoe.
C: Mae 'na brosiect VR ar gyfer arholiadau hefyd on'd oes?
A: Oes! Un o'n cynigion mwyaf arloesol yw defnyddio VR i helpu dysgwyr pryderus i brofi amodau arholiad cyn y diwrnod mawr. Gallan nhw fynd ar daith rithwir o gwmpas ystafell yr arholiad, clywed tician y cloc, ac ymarfer dod o hyd i'w sedd – mae hyn i gyd yn helpu i wneud yr anhysbys yn gyfarwydd, ac mae'n gallu rhoi hwb i hyder rhywun. Mae'r syniad hwn yn cael ei ymgorffori'n llawn o fewn y Coleg gan ein Mentoriaid Cymheiriaid Digidol, sydd ochr yn ochr â Jonathan Parker, darlithydd y cyfryngau digidol ac Arweinydd VR y Coleg, yn ffilmio, datblygu a chyflwyno'r dechnoleg ddweddaraf hon ar gyfer ein myfyrwyr.
C: Beth yw ymgyrch ANADLWCH Coleg Gŵyr Abertawe?
A: Ein hymgyrch ANADLWCH yw ein menter lles sydd â'r nod penodol o helpu myfyrwyr i reoli straen a gorbryder arholiadau. Fe wnaethon ni ei lansio mewn ymateb i'r pwysau cynyddol y mae dysgwyr yn eu hwynebu – o geisiadau prifysgol a rhagolygon swyddi i ddisgwyliadau gan rieni ac athrawon. Mae'r ymgyrch yn cynnig tips ymarferol ac yn gweithredu fel acronym defnyddiol:
- A - Anadl – cymer anadl ddofn cyn bwrw ati!
- N - Nodiadau – cofia edrych dros dy nodiadau
- A - Archwilio – archwilia’r testunau yn fwy manwl
- D - Dysgu – gofyn gwestiynau ffug i ti dy hun
- L - Les – bydd cymryd hoe o dy waith adolygu yn gwneud byd o les i ti
- W - Wynebu – wyneba’r hyn rwyt ti wedi’i anghofio neu sy’n anodd
- Ch - Chwarae – chwarae ran weithredol yn dy waith adolygu
Mae'n ganllaw syml, hawdd ei chofio sy'n cefnogi adolygu effeithiol ac ystyriol.
C: Beth yw dy brif dips adolygu ar gyfer dysgwyr?
A: Fy nghyngor mwyaf yw: edrycha ar ôl dy hun. Paid â gadael popeth tan y funud olaf, dylet ti sicrhau bod gennyt ti drefn, a chymryd seibiau yn rheolaidd. Llunia amserlen sy'n cynnwys talpiau mawr o adolygu wedi'u dilyn gan rywbeth cynhyrchiol - cerdded y ci, helpu gyda'r gwaith tŷ, neu roi cynnig ar rysáit newydd efallai. Mae'n ymwneud â chodi dy ysbryd a lleihau dy lefelau straen.
C: Oes unrhyw gyngor i rieni neu warcheidwaid?
A: Oes - cymerwch ran! Gofynnwch gwestiynau, helpwch gyda chardiau fflachio, cefnogwch drefn reolaidd. Sicrhewch fod eich plentyn yn yfed digon o ddŵr ac yn bwyta digon hyd yn oed, a'i fod yn neilltuo amser ar gyfer ymlacio fel rhan o'r broses. Mae chwarae rhan weithredol yn eu cynlluniau adolygu yn gallu helpu dysgwyr i deimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi a'u hysgogi.
C: Gair i gloi?
A: Os wyt ti'n eich trafferthion, paid â dioddef ar dy ben dy hun. Mae cymorth ar gael bob amser yn y Coleg – gofyn amdano. Rydyn ni yma i dy helpu di i lwyddo, yn academaidd ac yn bersonol hefyd.