Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2025.
Mae’r Coleg ar y rhestr fer mewn tri chategori: Menter Lles Gweithwyr y Flwyddyn; Menter Recriwtio y Flwyddyn; ac Arweinydd y Flwyddyn.
“Rydyn ni wrth ein boddau o fod ar y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain,” meddai’r Dirprwy Bennaeth: Pobl a Lles, Sarah King. “Fel cyflogwr mawr, rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb i gefnogi a buddsoddi yn ein staff o ddifrif mawr ac felly mae cael ein cydnabod fel hyn ar lefel genedlaethol yn rhoi llawer o foddhad i ni.
“Mae lles, twf a boddhad swydd ein staff wrth wraidd popeth a wnawn fel Coleg ac mae’r gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Adnoddau Dynol Prydain yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol lle gall pawb ffynnu.”
Yn ogystal â Sarah yn cael ei henwebu fel Arweinydd y Flwyddyn, yr hyn a sicrhaodd fod y Coleg ar y rhestr fer oedd ei ddull rhagweithiol o gynnig cymorth menopos yn y categorïau Lles a Recriwtio.
“Nid yn unig mae ein rhaglenni ymwybyddiaeth o’r menopos wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’n staff presennol – gan roi hwb i’w morâl yn y gweithle a lleihau absenoldeb – mae hefyd wedi effeithio ar ein ffigurau recriwtio, gyda chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr benywaidd i’r Coleg. Mae hwn yn ganlyniad gwych rydyn ni i gyd yn hynod falch ohono.”
Gydag amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys y Profiad Cyffredinol Gorau i Bobl, Menter Diwylliant y Flwyddyn ac Arweinydd y Flwyddyn, mae Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2025 yn ceisio darganfod a dathlu’r sefydliadau a’r unigolion sy’n wirioneddol angerddol am ddarparu profiad o’r radd flaenaf i bobl.
Eleni, cafwyd ychydig dros 350 o geisiadau gan sefydliadau ar draws y DU ac felly roedd y cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol yn ffyrnig. Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn amrywio o arloeswyr newydd i arwyr y sector cyhoeddus, sêr y byd technolegol, cewri byd-eang a phopeth rhyngddynt.
Bydd Tîm Adnoddau Dynol y Coleg yn darganfod a ydynt wedi ennill mewn seremoni wobrwyo yn Covent Garden, Llundain, ar 2 Ebrill 2025.
Dywedodd Nate Harwood, Sylfaenydd New Possible ac un o feirniaid Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain: “Roedden ni’n falch iawn o’r ansawdd a’r nifer uchaf erioed o geisiadau a gawsom eleni. Roedd hi’n anhygoel gweld y fath ddyfeisgarwch ar waith, gan adlewyrchu sgiliau rhagorol, angerdd a gwaith caled timau ac unigolion ledled y Deyrnas Unedig. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y Rownd Derfynol.”
DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
Mae beirniaid Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2025 yn cynnwys:
• Louise Benford, Prif Swyddog Pobl, The AA
• Sharon Benson, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol
• Anne Billson-Ross, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grŵp, Taylor Wimpey
• Kath Ennis, Prif Swyddog Pobl, Ansor LLP
• Mary Foulkes OBE FCIPD, Cyfarwyddwr Tegwch, Cynhwysiant a Diwylliant, Shelter
• Leigh Gannon, Cyfarwyddwr Pobl a Threfniadaeth, PUMA UKI
• Julie Griggs, Cyfarwyddwr Pobl a Phartneru, Y Brifysgol Agored
• Maria Hawley, Prif Swyddog Pobl, Fisher German
• Melanie Hetherington, Prif Swyddog Pobl, NatWest Cushon
• Dr Tracey Leghorn, Prif Swyddog Gwasanaethau Busnes, SUEZ Recycling and Recovery UK
• Vilma Nikolaidou, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI)
• Janet Roberts, Prif Swyddog Pobl a Diwylliant, Cycas Hospitality
• Tara Ryan, Is-lywydd Profiad Pobl, Monzo
• Perry Timms, Prif Swyddog Ynni, Pobl ac Adnoddau Dynol Trawsnewidiol
• Lucy Tobin, Cyfarwyddwr Pobl, Frontier Economics
• Nate Harwood, Sylfaenydd, New Possible
Mae Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain yn cael eu pweru gan New Possible, platfform gwybodaeth i weithwyr y genhedlaeth nesaf. Mae New Possible yn helpu arweinwyr i adeiladu sefydliadau iachach trwy ddarparu gwybodaeth ystyrlon sy’n gallu llywio newid go iawn.