Mae partneriaeth newydd â’r Hyb Arloesedd Seiber (CIH) yn dod â rhaglen o addysg seiberddiogelwch i Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar uwchsgilio diwydiant mewn hylendid seiberddiogelwch i helpu i sicrhau bod gan fusnesau ar draws De-orllewin Cymru yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i sicrhau eu gweithrediadau busnes. Mae’r bartneriaeth hon yn ymestyn ac yn adeiladu ar enw rhagorol Coleg Gŵyr Abertawe fel arweinydd mewn sgiliau digidol a darpariaeth seiberddiogelwch.
Arweinir CIH gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru (mae’r ddwy wedi’i chydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol am ragoriaeth mewn ymchwil, arloesedd ac addysg) gyda phartneriaid cyflenwi Alacrity Foundation a Tramshed Tech, a chonsortiwm o bartneriaid y sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys Airbus, Prifddinas-ranbarth Caerdydd, CGI, Thales a Llywodraeth Cymru. Mae CIH ar genhadaeth i drawsnewid De Cymru yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn diwedd y degawd ac mae’r cysylltiad hwn yn cryfhau’r uchelgais honno.
Mae’r bartneriaeth hon yn dechrau gyda gweithdai blasu Hylendid Seiberddiogelwch AM DDIM sy’n rhedeg ar 10 Mawrth 2025. Mae pob sesiwn yn para dwy awr, a gallwch ddewis un o dri slot. Mae’r gweithdy yn cyflwyno’r arferion hanfodol sydd eu hangen ar eich sefydliad i ddiogelu data personol a sefydliadol, gan bwysleisio diogelwch cyfrineiriau, diweddariadau meddalwedd a pheirianneg gymdeithasol. Bydd cyfranogwyr yn cael tips cyflym a hawdd i gryfhau eu hamddiffyniadau ar-lein a lleihau risgiau seiber.
- Ble: Ysgol Fusnes Plas Sgeti
- Pryd: 10 Mawrth 2025
- Cost: AM DDIM
- Archebwch trwy Microsoft Forms