Skip to main content
O'r chwith i'r dde - Mark Jones CEO and Kelly Fountain Principal

Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Cynllun Strategol Uchelgeisiol ar gyfer 2025-2029

O'r chwith i'r dde - Mark Jones CEO, Nikki Neale VP, James Donaldson VP, Kelly Fountain Principal, Paul Kift VP, Sarah King VP, Mike Glover VP

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2029, gan osod cyfeiriad uchelgeisiol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg, sgiliau a hyfforddiant.

Datblygwyd y cynllun trwy gydweithredu’n helaeth â staff, dysgwyr, cyflogwyr, a rhanddeiliaid allweddol. Mae’n amlinellu gweledigaeth ddewr ar gyfer dyfodol y Coleg a’i rôl hanfodol bwysig wrth drawsnewid bywydau a llywio newid cadarnhaol yn y rhanbarth.

Wrth wraidd y strategaeth newydd mae datganiad o weledigaeth y Coleg, sef “Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol”, sy’n ymgorffori ei ymroddiad i rymuso pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn. Mae’r weledigaeth yn mynd law yn llaw â’r genhadaeth sef “Trawsnewid Bywydau trwy Addysg, Sgiliau, a Hyfforddiant”, gan atgyfnerthu ffocws y Coleg ar addysg fel yr offeryn mwyaf pwerus ar gyfer newid.

Dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: "Mae’r cynllun strategol hwn yn cynrychioli ein cydweledigaeth ar gyfer dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe – dyfodol lle mae dyheadau’n cael eu tanio, rhwystrau’n cael eu chwalu, a llwyddiant yn cael ei feithrin. Ein hymrwymiad cadarn i’n dysgwyr, ein staff ac ansawdd sydd wrth wraidd y cynllun hwn, a thrwy addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, rydyn ni’n anelu at greu cyfleoedd, meithrin arloesedd, a chyfrannau at gymuned fwy cynhwysol a chynaliadwy. Rwy’n gyffrous i weld sut y bydd yn grymuso ein dysgwyr a llunio dyfodol ein Coleg a’r rhanbarth.”

Mae’r cynllun strategol yn nodi set glir o amcanion ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys:

  • Bod y Coleg sy’n perfformio orau yng Nghymru
  • Darparu profiad rhagorol i’r dysgwr trwy ddysgu ac addysgu cynhwysol, arloesol ac o ansawdd uchel
  • Cael ein cydnabod fel cyflogwr o ddewis a meithrin diwylliant sy’n hyrwyddo lles, amrywiaeth, a thwf proffesiynol
  • Llywio twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol trwy ddarparu dysgwyr medrus sy’n ateb anghenion datblygol cyflogwyr
  • Ymrwymo i gynaliadwyedd, gan leihau ôl troed carbon y Coleg, ac ymgorffori arferion cynaliadwy ym mhob maes gweithredu
  • Cryfhau partneriaethau â chyflogwyr, llywodraeth, a sefydliadau yn y gymuned i ddarparu addysg a hyfforddiant blaengar.

Datblygwyd y cynllun strategol hwn trwy ymgynghori’n helaeth â staff, dysgwyr, Bwrdd y Gorfforaeth, yn ogystal â chyflogwyr a rhanddeiliad allanol i gael eu hadborth. Mae strategaethau’r Coleg hefyd yn cyd-fynd â mentrau rhanbarthol a chenedlaethol allweddol, gan gynnwys Cynllun Strategol Medr a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod ei nodau yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn effeithiol. Mae’n seiliedig ar werthoedd craidd y Coleg sef Gwydnwch, Uniondeb, Parch, Arloesedd a Chydweithio. Mae’r egwyddorion hyn yn arwain pob agwedd ar weithrediadau’r Coleg, gan lunio amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer dysgwyr, staff, a phartneriaid fel ei gilydd.

Ychwanegodd y Pennaeth, Kelly Fountain: “Wrth i ni gychwyn ar y daith gyffrous hon, rydyn ni’n gwahodd y gymuned, cyflogwyr, a phartneriaid i ymuno â ni i gyflawni’r nodau uchelgeisiol a amlinellir yn ein Cynllun Strategol. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n parhau i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr, yr economi, a’r gymuned ehangach, gan gyflawni ein gweledigaeth o Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Goleg Gŵyr Abertawe a’i Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2029, ewch i Tudalen Cynllun Strategol.