Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi 20 Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gyda thri ohonynt wedi eu penodi mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg.
Bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tra yn y coleg i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eleni bydd:
Alexandra Anekore
Aneurin Hywel
Ariella Rees-Davies
Caitlin Horton Davies
Caitlin Scotti
Daniel Treharne
Gwenno Wakeham
Ieuan Williams
Imogen Roberts
Kacie Jones
Lily Kearney
Niamh Davies
Rebecca May
Saffia Swinson
Sofia Gimblett
Tegwyn Rees
William Kisley-Jones
Y tri llysgennad fydd yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg yng ngholeg Gwyr bydd:
Cai Watts
Cian Curry
Leri Watkins
Meddai Cai Watts: “Mae bod yn llysgennad i mi yn golygu helpu pobl i ddefnyddio eu hiaith yn y coleg, a rhoi llais i’r gymuned Gymraeg yn y coleg.”
Meddai Leri Watkins: “Mae gallu siarad Cymraeg yn y coleg yn bwysig i mi gan mai dyma fy mamiaith ac mae ei ddefnyddio yn mynd i helpu fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol ym maes Gofal Plant. Rwyf wedi gwneud ffrindiau sy’n siaradwyr Cymraeg trwy fynychu digwyddiadau dwyieithog y coleg ac fel Llysgennad Cymraeg, mae wedi rhoi cyfleoedd i mi i mewn a tu allan i’r ystafell ddosbarth nid yn unig i wella fy Nghymraeg i ond i helpu eraill.”
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a Coleg Gŵyr Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn ei coleg.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt i fagu eu hyder a’u sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Cymraeg y coleg.
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg: Tik Tok, Instagram - @colegcymraeg a @cymrycoleggwyrabertawe