Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer 2024/25, lle roeddent yn gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais i brifysgolion gorau’r DU.
Daeth bron 300 o fyfyrwyr o’r Coleg a chweched dosbarth ysgolion i’r digwyddiad, dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Daeth llawer ohonynt â’u rhieni a’u gwarcheidwaid hefyd.
Ar ôl croeso rhagarweiniol gan Dr Emma Smith, Rheolwr Cyfoethogi Academaidd y Coleg a Chydlynydd Seren Abertawe, daeth yr Athro Simon Bolt, Pennaeth yr Ysgol Beirianneg a Gwyddorau Cymhwysol yn y Brifysgol, a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones i’r llwyfan.
Fe wnaeth Simon a Mark sôn am y manteision niferus i bobl ifac sy’n ymwneud â Hyb Seren Abertawe, o safbwynt addysg uwch ac addysg bellach.
Yn bresennol hefyd roedd Daniel Powell, Pennaeth Allgymorth a Chyfathrebu, Y Coleg Newydd, Rhydychen, a draddododd ddarlith ar hyder a chyrraedd eich potensial academaidd.
Daeth y cyn-fyfyriwr Ellen Jones i’r llwyfan i ddweud sut roedd Seren wedi rhoi cyfleoedd iddi ddatblygu diddordeb angerddol yn ei phynciau a’i helpu gyda’i chais llwyddiannus i astudio Seicoleg Arbrofol ym Mhrifysgol Rhydychen, lle mae hi newydd raddio.
“Mae Hyb Seren Abertawe yn rhoi modd i fyfyrwyr archwilio elfennau uwch-gwricwlaidd y pynciau sydd yn hanfodol o ran datblygu eu chwilfrydedd academaidd a’u hyblygrwydd deallusol,” meddai Emma. “Mae ein digwyddiad lansio yn enghraifft wych o’r bartneriaeth weithio gadarn sy’n bodoli rhwng Academi Seren, y Coleg, y Brifysgol, a’r saith ysgol yn Abertawe – cydweithrediad sydd â’r nod o ehangu cyfranogiad pobl ifanc sy’n anelu at sefydliadau addysg uwch blaenllaw.”
Ar ôl yr anerchiadau, cafodd myfyrwyr eu gwahodd i grwpiau trafod lle – dan arweiniad academyddion Prifysgol Abertawe – cymeron nhw ran mewn dosbarthiadau meistr blasu. Yn ogystal, roedd rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Steve Minney, Pennaeth Recriwtio Israddedigion ym Mhrifysgol Abertawe, a Daniel Powell.
Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn yn y DU a thramor. Ar gael i bob dysgwr â gallu academaidd o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gwneud cais i brifysgolion blaenllaw.
Mae hyn yn cynnwys gweithdai cyngor ac arweiniad gan diwtoriaid derbyn Rhydychen a Chaergrawnt, sesiynau paratoi ar gyfer derbyn i’r brifysgol, mynediad i ddosbarthiadau meistr pynciol dan arweiniad academayddion prifysgol, a chyfnodau preswyl yn Rhydychen a Chaergrawnt.