Skip to main content
 

Llwyddiant ysgoloriaeth i Ayoob

Llongyfarchiadau mawr i gyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Ayoob Azhar, sydd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio peirianneg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ar ôl cyrraedd yn y DU o Oman gyda’i deulu yn 2021, cofrestrodd Ayoob yn y Coleg a chwblhau BTEC Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro) ar Gampws Gorseinon.

O’r diwrnod cyntaf, ac er gwaethaf heriau ymgartrefu mewn gwlad newydd, roedd Ayoon yn sefyll allan fel myfyriwr eithriadol.

Gan gydbwyso ei astudiaethau â’i ymrwymiad crefyddol ac ymrwymiadau eraill dros yr haf, dangosodd ffocws a phenderfyniad a enillodd raddau Rhagoriaeth iddo ym mhob uned a gwblhaodd. Roedd ei waith aseiniad o safon mor uchel y cafodd ei ddefnyddio yn aml fel ‘meincnod’ pan aeth i’r byrddau academaidd ar gyfer marcio.

Cymaint oedd parch ei gyfoedion a’i ddarlithwyr ato, cafodd Ayoob ei ddewis fel Myfyriwr y Flwyddyn - Peirianneg yn y Coleg yng Ngwobrau Myfyrwyr Blynyddol 2024, a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty.

“Safodd Ayoob allan oherwydd ei wydnwch, ei ethig gwaith clodwiw a’i gyflawiadau academaidd,” meddai’r darlithydd Lee Hayward. “Ni waeth beth oedd y pwnc, fe wnaeth e ymdrochi yng nghynnwys y pwnc hwnnw, mae ganddo agwedd wych at astudio hunangyfeiriedig. Roedden ni bob amser yn gwybod y byddai Ayoob yn symud ymlaen i addysg uwch, ac rydyn ni’n dymuno pob hwyl iddo ar gyfer ei gwrs HND/BEng Peirianneg Drydanol/Electronig.”

Rydyn ni dal wrthi yn cofrestru ar gyfer mis Medi – cysyllta â ni heddiw!
admissions@gcs.ac.uk