Menter CGA
Mae’ch taith entrepreneuriaeth yn cychwyn yma...
Sesiynau menter
Gweithdai pwrpasol
Modelau rôl ysbrydoledig
Adnoddau allanol
Gweld digwyddiadau sydd ar ddod
Mae nifer o’n digwyddiadau ar agor i’r cyhoedd!
Eich hyrwyddwyr menter
P’un a oes gennych syniad busnes, mae busnes gennych yn barod neu eisiau dysgu rhagor, cysylltwch â ni!
Cysylltu â’r hyrwyddwyr menter
Mae cymorth Menter CGA ar gael i fyfyrwyr a staff Coleg Gŵyr Abertawe yn unig.
Claire Reid
Susanne David
Sesiynau menter
Mae gennym amrywiaeth o wersi ar ffurf gweithdy sy’n gallu cynorthwyo staff i addysgu Sgiliau Menter i fyfyrwyr, gan roi’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddeall sut y gallan nhw fynd ati i gychwyn eu menter eu hunain, a’r holl sgiliau angenrheidiol i fod yn llwyddiannus ar eu taith entrepreneuriaeth.
Mae’r gweithdai canlynol wedi’u cynllunio i ddarlithwyr gyflwyno’n annibynnol gydag adnoddau llawn yn cael eu darparu, ond gallwn greu gweithdai pwrpasol y gellir eu cyflwyno gan Fodelau Rôl Diwydiant.
Gweithdai pwrpasol
Mae ein gweithdai pwrpasol yn cynnig profiadau dysgu ysgogol a llawn gwybodaeth sy’n darparu ar gyfer ystod amrywiol o destunau a phynciau. P’un ai ydych yn ystyried gwella eich sgiliau creadigol, datblygu gwybodaeth diwydiant neu astudio pwnc penodol yn fanwl, mae gennym weithdy wedi’i deilwra i’ch anghenion.
Enghreifftiau o’n gweithdai pwrpasol
- Ysgrifennu Creadigol
- Modelu Ariannol ar gyfer Dechrau Busnes
- Strategaethau Marchnata a Gwerthu
- Troi Eich Crefft yn Fusnes Ffyniannus
- e-Fasnachu i Ddechreuwyr.
Cysylltwch â ni i weld beth arall y gallwn ei gynnig!
Dosbarth Meistr Logo a Brandio
Yn ddiweddar, fe wnaethom gydweithredu â Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru i ddarparu Dosbarth Meistr Logo a Brandio ar gyfer myfyrwyr celf Lefel 1 i Lefel 3. Dan arweiniad yr entrepreneur o Gymru Rachel Wheatley o Waters Creative, fe wnaeth y gweithdy rhyngweithiol hwn roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o egwyddorion dylunio logo, strategaethau brandio, a phwysigrwydd cyfathrebu gweledol wrth adeiladu hunaniaeth brand cryf.
Modelau rôl ysbrydoledig
rannu eu straeon ysbrydoledig a gwersi amhrisiadwy. Yn ogystal â gwrando ar daith rhywun arall, mae’r anerchiadau hyn yn sesiynau rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i’ch cynnwys mewn trafodaethau sy’n procio’r meddwl, ateb eich cwestiynau, a’ch gadael yn teimlo wedi’ch grymuso i ddilyn eich dyheadau entrepreneuraidd.
Mae siaradwyr yn y gorffennol wedi cynnwys:
- Tansy Rogerson o Armadillo Events
- Darlunwyr Natallie Griffiths a Heledd Owen
- Ben Clifford o Surfability
- Sean o Forces Fitness
- Mark Williams o LIMB-art
- Daniel Crandon Criminology
- Kevin Mansell-Abell o That Media Group.
Digwyddiadau Menter CGA
Cysylltwch â ni i wybod rhagor neu i’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Stondin Anrhegion a Chardiau Sant Ffolant
Ar draws y campysau
Chwefror 2025
Stondin dros dro sy’n cynnwys detholiad o anrhegion a chardiau a wnaed â llaw i fynegi’ch cariad a’ch gwerthfawrogiad i eraill (neu i chi’ch hun!).
Marchnad y Gwanwyn
Atriwm Tycoch
Ebrill 2025
Dathlwch ddyfodiad y gwanwyn gyda chynnyrch ffres, blodau, a chreadigaethau crefftus braf.
Wythnos Menter Gynaliadwy a Chymdeithasol
Ar draws y campysau
Mai 2025
Dewch i ddarganfod cynhyrchion ecogyfeillgar, cysylltu â busnesau pwrpasol, a dysgu am ddatrysiadau ar gyfer dyfodol mwy teg ac amgylcheddol ymwybodol.
Straeon Ysbrydoledig
Wills Petting Farm
Mae William Evans, entrepreneur ifanc a sefydlodd Will’s Petting Farm yn 14 oed, wedi tyfu a datblygu ei fusnes yn llwyddiannus gyda chymorth ein tîm Menter. O anerchiadau addysgol i gyfleoedd i ddod wyneb yn wyneb ag anifeiliaid, mae Will’s Petting Farm yn cynnig ystod eang o wasanaethau sy’n darparu ar gyfer anghenion ac achlysuron amrywiol.
Hels Bakes Cakes
Mae Heledd, entrepreneur ifanc ac un o Lysgenhadon y Gymraeg yn ein Coleg, wedi lansio ei busnes pobi, Hels Bakes Cakes, yn llwyddiannus. Gyda chymorth ein tîm Menter, mae Heledd wedi hogi ei sgiliau, ennill profiad gwerthfawr, ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer ei hymdrechion yn y dyfodol.