Sesiynau Blasu Wythnos Addysg Oedolion
Trosolwg
Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2024, rydyn ni’n gyffrous i gynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim gyda’r nod o ddeffro’ch creadigrwydd a thanio angerdd am ddysgu gydol oes. Ymunwch â ni i archwilio sgiliau newydd, ailddarganfod hen hobïau, a chysylltu â chymuned gefnogol o gyd-ddysgwyr. P’un ai ydych yn ystyried datblygu eich sgiliau, rhoi hwb i’ch hyder, neu archwilio diddordebau newydd, mae ein sesiynau blasu yn darparu amgylchedd croesawgar ac ysbrydoledig i oedolion o unrhyw oedran.
Cyflwyniad i Wehyddu Gwŷdd Peg
Mae gwehyddu gwŷdd peg yn grefft syml ond creadigol sy’n cynnwys gwehyddu edafedd neu ffibrau eraill o amgylch cyfres o begiau neu hoelbrennau i greu amrywiaeth o brosiectau tecstilau. Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn addas i ddechreuwyr sydd am ddysgu hanfodion gwehyddu gwŷdd peg a chreu eu darnau unigryw eu hunain.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu technegau sylfaenol gwehyddu gwŷdd peg, gan gynnwys gosod y gwŷdd, dewis edafedd neu ddefnyddiau priodol, a dod yn gyfforddus â’r broses wehyddu. Trwy weithdai ymarferol a gwersi dan arweiniad, byddwch yn archwilio gwahanol batrymau gwehyddu, cyfuniadau lliw, ac elfennau dylunio i gynhyrchu amrywiaeth o eitemau wedi’u gwehyddu â phegiau.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr wybodaeth a’r hyder i barhau â’ch taith gwehyddu gwŷdd peg, gan greu darnau personol a swyddogaethol sy’n adlewyrchu eich arddull a’ch esthetig unigryw.
Rheoli Eich Cyfrineiriau
Ydych chi’n ei chael yn anodd cofio eich cyfrineiriau? Ydych chi’n defnyddio’r un cyfrinair am bopeth rydych chi’n ei wneud ar-lein? Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn eich addysgu sut i greu cyfrineiriau cryfach a’u storio’n ddiogel, fel na fydd rhai i chi eu cofio na’u hysgrifennu, gan eich helpu i aros yn ddiogel ar-lein.
Diogelwch Ar-lein
Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn edrych ar wneud eich dyfais yn fwy diogel. Bydd yn dangos sut y gallwch ychwanegu mwy o haenau diogelwch wrth ddefnyddio eich dyfais. Byddwn ni hefyd yn edrych ar gyfrineiriau a sut y gallwch eu cryfhau, a gweld ac osgoi sgamiau.
Lluniau – Trefnu a Chadw Copi Wrth Gefn
Hoffech chi amddiffyn eich lluniau a’ch atgofion gwerthfawr? Oes gennych chi hen luniau yr hoffech eu cadw? Bydd y cwrs blasu rhad ac am ddim hwn yn eich addysgu sut i greu ffolderi i storio’ch atgofion gwerthfawr a’u gwneud yn haws dod o hyd iddynt; creu copi wrth gefn i sicrhau bod gennych gopi arall, rhag ofn i’ch dyfais fynd ar goll, yn cael ei ddwyn, neu’n torri; dangos gwahanol ffyrdd i chi gadw eich lluniau, gan gynnwys sganio hen luniau i gael copi digidol.
Pwytho Sashiko
Mae pwytho sashiko yn dechneg tecstilau gyfareddol sy’n cynnwys creu patrymau cymhleth trawiadol gan ddefnyddio pwythau rhedeg syml. Bwriedir y cwrs ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn archwilio harddwch ac amlbwrpasedd y grefft hon.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i ddewis defnyddiau priodol ac ymgyfarwyddo â’r technegau pwytho sashiko sylfaenol. Trwy weithdai ymarferol a gwersi dan arweiniad, byddwch yn arbrofi yn hyderus ag elfennau dylunio gwahanol, paletau lliw, a rhythmau pwytho i greu’ch eitemau sashiko unigryw eich hun.
Nid oes angen profiad blaenorol o frodwaith na gwniadwaith, gan fod y cwrs yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol i fyfyrwyr sy’n ddechreuwyr pur. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr hyder a’r wybodaeth i barhau â’ch taith pwytho sashiko gartref.
Siopa Ar-lein yn Ddiogel
Hoffech chi allu siopa ar-lein yn ddiogel? Does dim angen bod ofn. Mae’r cwrs blasu hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn eich addysgu sut y gallwch siopa ar-lein yn ddiogel a ffyrdd o nodi sgamiau siopa posibl ar-lein, yn ogystal â gwahanol ffyrdd o dalu ar-lein.
Cudynnu i Ddechreuwyr
Mae cudynnu yn dechneg tecstilau cyfareddol sy’n cynnwys creu dyluniadau tri-dimensiwn cymhleth trwy yrru edafedd neu ffibr trwy ddefnydd cefn. Nod y cwrs rhagarweiniol hwn yw dysgu hanfodion cudynnu i ddechreuwyr er mwyn iddynt allu creu eu darnau cudynnog unigryw eu hunain.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu’r offer a’r defnyddiau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cudynnu, gan gynnwys y gwn cudynnu, ffabrigau cefnu, ac amrywiaeth o opsiynau edafedd neu ffibr. Dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, byddwch yn ymarfer technegau cudynnu sylfaenol, a dysgu sut i densiynu’r edafedd i greu rhesi a phatrymau cyson.
Nis oes angen profiad blaenorol o gudynnu na thecstilau. Mae’r amgylchedd dosbarth cefnogol yn annog myfyrwyr i ddarganfod eu llais creadigol trwy gudynnu.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad.