Skip to main content

Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau Creadigol Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth
Lefel 4
Gorseinon
15 mis

Trosolwg

Bwriad prentisiaeth Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau Creadigol Lefel 4 yw pontio’r bwlch sgiliau yn y sector creadigol yng Nghymru. Trwy’r rhaglen arloesol hon, byddwch yn cael hyfforddiant sy’n berthnasol i’r diwydiant a chewch eich cyflwyno i’r cyfleoedd cyflogaeth amrywiol o fewn sector y Cyfryngau Creadigol.

Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio iechyd a diogelwch yn y sector, gan eich addysgu am y rheoliadau perthnasol a sut i gynnal asesiadau risg i’ch cadw yn ddiogel yn y gwaith.

Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu amrywiaeth eang o destunau a fydd yn amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa, gan gynnwys cychwyn a chynnal cyfathrebu effeithiol ag arbenigwyr eraill yn y cyfryngau rhyngweithiol, cydweithredu ar brosiectau, ac ymateb yn adeiladol i adborth. Byddwch yn datblygu sgiliau i gynnal trafodaethau sy’n meithrin cysylltiadau gwaith da a fydd yn bwysig ar gyfer rolau yn y dyfodol.

Oherwydd y model addysgu hyblyg a phwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd, rydych yn sicr o gael profiad addysgol cynhwysfawr. Mae cyfleoedd cyfoethogi yn cynnwys prosiectau ymarferol megis cynhyrchu fideo, gan roi profiad diwydiant ymarferol i chi i ddatblygu eich gyrfa.

Awarding body: AIM

Os oes gennych ddiddordeb yn y brentisiaeth hon, cysylltwch â: creative.media@gcs.ac.uk. Sylwch: Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth.

Pum gradd A-C ar lefel TGAU neu gymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol.

Dylai ymgeiswyr ddangos diddordeb brwd yn sector y cyfryngau creadigol a bod â dealltwriaeth sylfaenol o offer a phlatfformau digidol.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfuniad o brofiadau dysgu ymarferol a theori, a addysgir trwy fodiwlau hyblyg er mwyn darparu ar gyfer patrymau gweithio amrywiol. Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu amrywiaeth eang o destunau, o iechyd a diogelwch yn sector y cyfryngau creadigol i sgiliau uwch mewn dylunio a datblygu cynhyrchion cyfryngau rhyngweithiol.

Ategir y dysgu gan raglen fugeiliol sy’n canolbwyntio ar dwf personol a phroffesiynol.

Mae ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol diwydiant ac ymwneud â phrosiectau byd go iawn yn sicrhau bod prentisiaid yn datblygu sgiliau a gwybodaeth berthnasol i ffynnu yn y diwydiannau creadigol.

Nid oes ffioedd stiwdio ar Lefel 4.