Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg: Cynnwys Creadigol ar gyfer y Cyfryngau a Marchnata Lefel 3 - Diploma Estynedig
Ffôn: 01792 284097 E-bost: creative.media@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ennill y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i addysg uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth mawr o lwybrau yn y Diwydiannau Creadigol.
Bydd meysydd astudio’n cynnwys: Golygu Delweddau, Fideo, Ffotograffiaeth a Dylunio Gwefannau.
Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y broses greadigol o’r cyn-gynhyrchu i’r ôl-gynhyrchu. Byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau mewn astudiaethau ymarferol, damcaniaethol a chyd-destunol, gan gynhyrchu portffolios ar-lein a dangos riliau o’ch gwaith. Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â stiwdios cynhyrchu, digwyddiadau gyrfaoedd arbenigol, diwrnodau agored prifysgol a bydd gweithdai ymarferol, gan gynnwys sgiliau cyflogadwyedd.
Y diwydiannau creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn enwedig yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o dros £1.9 biliwn. Mae’n cyflogi dros 58,000 o bobl, 52% yn fwy na deng mlynedd yn ôl. Mae Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau. Mae hefyd yn gartref i glwstwr technoleg ddigidol sy’n tyfu. Maen nhw’n cwmpasu amryw byd o swyddi gan gynnwys y Cyfryngau Digidol, Marchnata, Teledu, Ffilm, Hysbysebu ac Animeiddio.
Bydd y cwrs hwn yn cefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn y gyrfaoedd canlynol: Creawdwr Cynnwys, Golygydd Delweddau, Cynhyrchydd Fideo, Golygydd Fideo, Cynhyrchydd Graffeg Symudol, Golygydd Sain, Rheolwr Brand, Gwerthu a Marchnata, Ffotograffydd, Dylunydd Gwefannau, Ysgrifennwr Copïau, Dylunydd Rhyngwyneb Defnyddiwr, Dylanwadwr YouTube.
Sut i wneud cais
Mae’r cwrs Cyfryngau Creadigol Lefel 3 ar gael fel opsiwn astudio amser llawn. Mae gennym hefyd gyfleoedd prentisiaeth ar Lefel 3 a Lefel 4. I wneud cais am yr opsiwn amser llawn, cliciwch ‘ymgeisiwch nawr (amser llawn)’ isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth, e-bostiwch: creative.media@gcs.ac.uk. Sylwch: Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd A-C ar lefel TGAU neu’r Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol.
Bydd rhaid i chi gyflwyno portffolio o waith celf yn eich cyfweliad. Bydd myfyrwyr hŷn â’r sgiliau neu’r profiad perthnasol hefyd yn cael eu hystyried. Mae diddordeb yn y cyfryngau a chreadigrwydd hefyd yn hanfodol.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn VFX a Graffeg Symudol
Astudiaethau pellach yn y brifysgol.