Skip to main content
logo

Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau lle yn y 100 Gorau ar Restr Stonewall

Mae’r Coleg wedi sicrhau lle yn y 100 gorau ar restr Stonewall o gyflogwyr blaenllaw sy’n LHDTC+-gynhwysol.

•    Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2024 yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sy’n ymrwymedig i gefnogi eu staff a’u cwsmeriaid LHDTC+. 
•    Canmolwyd Coleg Gŵyr Abertawe am ei waith o ran creu gweithle croesawgar lle gall gweithwyr LHDTC+ fynegi eu hunain yn y gwaith. 
•    Mae’r Coleg yn ymuno â nifer o sefydliadau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysgol arweiniol a sicrhaodd le ar restr flynyddol y 100 Cyflogwr Gorau sy’n LHDTC+-gynhwysol.


Mae Stonewall - elusen fwyaf Ewrop ar gyfer hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar (LHDTC+) - wedi lansio Rhestr 100 Cyflogwr Gorau 2024 a chafodd Coleg Gŵyr Abertawe ei gydnabod am ei waith o ran cefnogi staff LHDTC+ i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Coleg wedi gwneud camau sylweddol tuag at greu amgylchedd gwaith cynhwysol, gan gynnwys Diwrnod Enfys Coleg Gŵyr Abertawe a sefydlu Rhwydwaith Staff LHDTC+.

Mae mwy na thraean o staff LHDT (35%) wedi cuddio pwy ydynt yn y gwaith gan ofni gwahaniaethu. Golyga hyn fod pobl LHDTC+ yn aml yn teimlo bod ganddynt opsiynau cyfyngedig wrth wneud cais am swyddi – neu yn teimlo nad yw’r diwylliant gwaith yn addas iddynt ar ôl derbyn swydd.

Rydym i gyd yn perfformio ein gwaith gorau pan fyddwn yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi ein hunain yn y gwaith – ac i bobl LHDTC+, mae hynny yn golygu peidio â chuddio pwy ydych neu pwy rydych chi’n ei garu/charu, tra byddwch yn y gwaith. Mae’r heriau sy’n gallu wynebu pobl LHDTC+ yn y gwaith yn effeithio arnom i gyd – mae’r mwyafrif o Brydeinwyr yn cefnogi pobl LHDTC+, ac mae gan nifer anwyliaid sydd yn bobl LHDTC+ eu hunain.

Rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2024 yw’r rhestr o gyflogwyr blaenllaw yn y DU o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sy’n graddio pa mor gynhwysol yw eu gweithleoedd.

Dywedodd Colin Macfarlane (ef), Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Incwm Stonewall: “Mae gweithredu arferion a pholisïau cynhwysol yn hanfodol i gyflogwyr sy’n dymuno denu a chadw’r talentau LHDTC+ gorau. Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn tynnu cyfranogwyr o ddiwydiannau a sectorau amrywiol, ac mae pob un ohonyn nhw yn deall mai cynwysoldeb yw’r dyfodol ac maen nhw’n arwain y ffordd yn y newid hanfodol hwn. Drwy hyrwyddo gweithwyr LHDTC+, rydych yn meithrin gweithlu hapus a llawn cymhelliant ac yn cyfrannu at DU lle gall pobl LHDTC+ ffynnu a bod yn nhw eu hunain.”

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein henwi yn un o’r 100 cyflogwr blaengar sy’n LHDTC+-gynhwysol,” meddai Swyddog Amrywiaeth a Chydraddoldeb Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Vincent. “Mae pawb yn haeddu teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel yn eu gweithle ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i sicrhau bod ein staff a’n myfyrwyr LHDTC+ yn parhau i ffynnu o fewn y sefydliad.”

DIWEDD

Mae rhestr lawn y 100 Gorau i’w gweld yma 

Mae Rhestr y 100 Cyflogwr Gorau yn cael ei llunio drwy gyflwyniadau i offeryn meincnodi gwirfoddol rhad ac am ddim, sef y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle. Mae’r holl gyflwyniadau yn cael eu marcio yn erbyn meini prawf trylwyr a safonol ac mae Stonewall yn dewis y 100 Cyflogwr Gorau am eu gwaith rhagorol o ran creu gweithleoedd cynhwysol ar gyfer eu staff LHDTC+.