Ar ddiwedd blwyddyn academaidd brysur arall, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles Staff yr haf ar 4 Gorffennaf.
Roedd staff addysgu a staff cymorth yn gallu ymlacio a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau eleni gan gynnwys golff, iacháu siamanaidd, garddio, therapi dŵr oer, ioga a gwneud printiau.
Roedden nhw hefyd yn gallu cael cyngor am ddim ar ystod o bethau megis materion cyfreithiol, therapi adfer hormonau, iechyd a ffitrwydd cyffredinol, a chynllun Beicio i’r Gwaith y Coleg.
Ar gael hefyd roedd detholiad o fwyd stryd maethlon.
Erbyn hyn mae’r Diwrnod Lles yn un o uchafbwyntiau’r calendr i staff ar draws y campysau, ac mae’n gyfle i fwynhau amrywiaeth o sesiynau blasu a gweithgareddau gyda chydweithwyr a ffrindiau.
“Gwych oedd gallu cynnig pecyn mor amrywiol o weithgareddau eto eleni – mae rhywbeth at ddant pawb yn ein Diwrnodau Lles,” meddai’r Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, Sarah King. “Diolch yn fawr i bawb a drefnodd neu a gymerodd ran mewn gweithgaredd gan gynnwys ein holl bartneriaid corfforaethol a chymunedol y mae eu cymorth nhw yn amhrisiadwy."
Daw’r Diwrnod Lles ar ddiwedd 12 mis llwyddiannus arall o ran iechyd a lles yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Cafodd y Coleg ei enwi yn Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.
Yng Ngwobrau InsideOut Awards, anrhydeddwyd Sarah King â Gwobr Arweinydd y Flwyddyn – Pobl am ei hymdrechion rhagorol yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles gweithwyr. Yn ogystal, cafodd y Coleg Ganmoliaeth Uchel yng nghategori Menter Iechyd Menywod Orau am ei ymrwymiad i gynorthwyo staff sy’n profi symptomau’r menopos.
Cafodd tîm Adnoddau Dynol y Coleg eu hanrhydeddu hefyd â gwobr Menter Iechyd a Lles Orau y Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector 2023 gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) am y gwaith maen nhw wedi’i wneud wrth gynorthwyo staff benywaidd trwy’r menopos.