Skip to main content
 

Cyfle cyffrous i gyflogwyr: digwyddiad galw heibio ar brentisiaethau

A ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno recriwtio prentis? Ydych chi am ddysgu mwy am sut y gall prentisiaethau fod o fudd i’ch busnes? Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad galw heibio ar brentisiaethau i gyflogwyr.

Bwriad y digwyddiad yw rhoi cyfle i gyflogwyr ymgysylltu yn uniongyrchol â’n harbenigwyr, gan ddysgu mwy am y cymorth prentisiaethau helaeth sydd ar gael yn y Coleg. 

P’un ai a oes gennych ddiddordeb mewn recriwtio prentis, angen cymorth gyda’r broses recriwtio, yn dymuno cael gwybodaeth am gyllid posibl, neu yn chwilio am arweiniad ar sut y gall prentisiaethau fod o fudd i’ch busnes - gallwn ni eich helpu

Yn ystod y digwyddiad, byddwch yn derbyn arweiniad personol gan ein tîm personol ar ffurf sesiwn 30 munud, un-i-un. Gallwch fynychu’r sesiwn yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti neu gallwch ymuno ar Teams. 

Bydd ein harbenigwyr ar gael o 10am - 4pm a bydd y sesiynau yn cael eu cynnig ar sail gyntaf i’r felin. Bwciwch sesiwn trwy fynd i’n tudalen Eventbrite.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@gcs.ac.uk