Skip to main content

Gwneud Printiau: Sgrin-brintio – Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn gyfle i ddatblygu a chanolbwyntio ar sgiliau a thechnegau sgrin-brintio traddodiadol a chyfoes. 

Mae sgrin-brintio yn gyfrwng amlbwrpas ac iddo amrywiaeth eang o gymwysiadau. Mae’n bosibl printio ar bapur, bwrdd, pren, gwydr, metel, plastigion, ac amrywiaeth eang o decstilau. 

‘Cyfuniad hudol o draddodiad, arloesedd, proses a dychymyg’ (Printmaking Traditional and Contemporary Techniques, Ann d’Arcy Hughes & Hebe Vernon – Morris. 2008).

Mae’r nodweddion unigryw a’r posibiliadau creadigol diddiwedd ym maes sgrin-brintio yn agor byd newydd o greu delweddau. 

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am iechyd a diogelwch yn ein stiwdio gwneud printiau arbenigol, hanfodion dylunio, paratoi delweddau a dinoethi, cymysgu inc a dulliau printio. 

Byddwn yn archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau sgrin-brintio. Bydd hyn yn cynnwys stensiliau wedi’u lluniadu a’u peintio, stensiliau papur wedi’u torri â llaw, stensiliau uniongyrchol a stensiliau ffotograffig.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb angerddol yn y maes pwnc. Byddai’n fanteisiol i ddysgwyr ddod pob tymor, os yw’n bosibl, ond nid yw hyn yn hanfodol.

Trwy gydol y cwrs, cewch eich arwain a’ch cyfarwyddo gan diwtor profiadol. Gan ein bod wedi ein lleoli o fewn ‘Ysgol Celf a Dylunio’ ynghyd â stiwdio printio arbenigol, cewch gyfle i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o’r broses sgrin-brintio. Asesir y gwaith yn erbyn amrywiaeth o feini prawf. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau a chreu portffolio bach o sgrin-brintiau.


Cyflwyniad i Sgrin-brintio a Phrotocolau Diogelwch

  • Trosolwg o hanes ac esblygiad sgrin-brintio.
  • Deall egwyddorion sylfaenol o sgrin-brintio: creu stensil, dinoethi delwedd, a chymhwyso inc.
  • Cyflwyniad i’r offer a’r defnyddiau angenrheidiol.
  • Protocolau diogelwch ac arferion gorau yn y stiwdio sgrin-brintio.

Hanfodion Dylunio a Pharatoi Delweddau

  • Archwilio egwyddorion dylunio a chyfansoddi ar gyfer sgrin-brintio effeithiol.
  • Gweithgareddau ymarferol i ddatblygu sgiliau dylunio sylfaenol.
  • Cyflwyniad i feddalwedd dylunio digidol ar gyfer creu stensiliau.
  • Paratoi ac optimeiddio delweddau ar gyfer sgrin-brintio.

Paratoi Sgrin a Thechnegau Dinoethi

  • Archwiliad manwl o wahanol fathau o sgrin a chyfrif rhwyll (mesh count)
  • Profiad ymarferol o baratoi sgrin, cotio, a sychu
  • Deall technegau dinoethi ar gyfer stensiliau o ansawdd uchel
  • Datrys problemau cyffredin wrth baratoi sgrin.

Technegau Cymysgu Inc a Phrintio

  • Cyflwyniad i fathau gwahanol o inciau sgrin-brintio.
  • Theori lliw ac ymarferion cymysgu inc.
  • Sesiynau printio ymarferol sy’n cynnwys printiau unlliw ac amryliw.
  • Archwilio gwahanol swbstradau a defnyddiau ar gyfer printio.
  • Cyflwyniad i ddefnyddiau arbenigol megis ffoiliau a ffloc.
  • Cynnwys haenau a graddiannau amryfal mewn dyluniadau.

Creu Portffolio a Phrosiect Terfynol

  • Adolygu a mireinio prosiectau unigol o’r cwrs.
  • Cwblhau llyfryn o ganlyniadau.
  • Creu portffolio bach o waith wedi’i gwblhau.
     

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.

Screen Printing
Cod y cwrs: VB438 ELB
17/09/2024
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
5.30 - 8.30pm
£70
Lefel 2
Screen Printing
Cod y cwrs: VB438 ELB2
07/01/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
5.30 - 8.30pm
£70
Lefel 2
Screen Printing
Cod y cwrs: VB438 ELB3
25/03/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
5.30 - 8.30pm
£70
Lefel 2