Skip to main content
Staff a myfyrwyr ar eu ffordd i’r maes awyr

Bant â ni i Genia!

Heddiw o’r diwedd fe wnaethon ni adael i fynd ar ein taith i Genia ar ôl yr hyn a fu yn wythnos arbennig o heriol yn y wlad. Rydym mor falch bod y protestiadau wedi lleihau ac, mewn rhai rhannau o’r wlad, wedi gorffen yn gyfan gwbl.

O safbwynt y Coleg, rydym wedi treulio’r 48 awr ddiwethaf yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n lletywyr, African Adventures, i brofi eu prosesau a’u gweithdrefnau yn drwyadl yn sgil y protestiadau diweddar, er bod yr ysgol rydym yn ymweld â hi yn bell i ffwrdd o’r dinasoedd mawr.

Mae paratoi ar gyfer teithiau o’r fath yn llawer iawn o waith a hoffem ddiolch i’r staff a’r myfyrwyr ar y daith yn ogystal â staff ar draws y Coleg sydd wedi helpu gyda’r paratoadau.

Hoffem ddiolch i’r ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon hefyd sydd wedi darparu dillad, llyfrau, ac offer addysgu ac ati ar gyfer ein ffrindiau yng Nghenia. Mae gennym 14 bag, pob un yn pwyso dros 20kg!

Diolch yn arbennig i’r sefydliadau hynny sydd wedi darparu nawdd, gan gynnwys:

Amroc Heating Services Ltd; 
AtkinsRéalis; 
Bardic Construction Ltd; 
Eurotech Roofing; 
GJ Willet and Son Ltd; 
Coleg Gŵyr Abertawe; 
RW Learning; 
Prifysgol Abertawe; 
Taith (Llywodraeth Cymru); 
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Os hoffech gael diweddariadau am ein hanturiaethau, byddwn ni’n postio lluniau a fideos bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Instagram: gcs.kenyaproject
Facebook: GCS Kenya Project