Skip to main content
Pobl yn eistedd wrth fwrdd gyda blodau, yn gwenu

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2024

Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn arall eto o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.

 

Dychwelodd yr hen ffefryn lleol Kev Johns MBE i’r llwyfan yn Stadiwm Swansea.com i gyflwyno’r noson, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, prentisiaethau, llwybrau addysg uwch, cyrsiau mynediad a rhaglenni cymorth cyflogadwyedd.

Siaradwr gwadd y noson oedd deiliad record y byd a’r bersonoliaeth boblogaidd yn y cyfryngau Colin Jackson CBE, a ysbrydolodd y gynulleidfa gyda’i stori o ddyfalbarhau a llwyddo.

Roedd y digwyddiad gwobrwyo yn arddangosfa ymarferol o dalentau myfyrwyr a staff.

Darparwyd y set, y goleuadau a’r sain gan fyfyrwyr Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3.

Darparwyd y blodau a’r addurniadau hardd ar y byrddau gan ein tîm blodeuwriaeth rhan-amser o Gampws Llwyn y Bryn.

Darparwyd adloniant gan y gantores a’r myfyriwr Safon Uwch Penelope George, a enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn – Celfyddydau Creadigol. Mae Penelope wedi cael cynnig lle diamod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Medi.  

Wrth law hefyd roedd tîm Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau y Coleg, a gyflwynodd sioe Doliau Porslen arbennig i westeion, oedd yn cynnwys bwth lluniau gwych a wnaed gan ein myfyrwyr Adeiladu. 

“Mae’r noson yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau myfyrwyr a chydnabod pawb sydd wedi chwarae rôl yn eu llwyddiant,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Roedd eu storïau unigol mor ysbrydoledig ac yn dangos yr hyn sy’n gallu cael ei gyflawni gyda’r ymrywmiad, yr ymroddiad a’r cymorth iawn gan y Coleg, eu teuluoedd a’u ffrindiau.”

Ar ddiwedd y noson, cafwyd cyflwyniad arbennig i Meirion Howells, sy’n rhoi’r gorau i’w rôl fel Cadeirydd y Llywodraethwyr ar ôl cyfnod hynod lwyddiannus yn y swydd. Yn ogystal â thlws i ddathlu ei gyfraniad rhagorol i’r Coleg, rhoddwyd portread trawiadol i Meirion a dynnwyd gan y myfyriwr Ryan Jones, a enwyd yn Fyfyriwr y Flwyddyn - Celfyddydau Gweledol yn gynharach yn y noson.

Dyma enillwyr 2024 yn llawn:

Addysg Sylfaenol i Oeolion/ESOL Myfyriwr y Flwyddyn –  Guli Jincharadze
Gwobr Bernie Wilkes Gwallt, Harddwch a Holisteg - Myfyriwr y Flwyddyn – Maisie Pearl
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth - Myfyriwr y Flwyddyn – Tyler Condon
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Myfyriwr y Flwyddyn – Pasha Richards-Parssa Nykoo
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus - Myfyriwr y Flwyddyn – Nathan Lloyd
Y Celfyddydau Gweledol - Myfyriwr y Flwyddyn – Ryan Jones
Busnes - Myfyriwr y Flwyddyn – Dragos Negrea
Y Celfyddydau Creadigol - Myfyriwr y Flwyddyn – Penelope George Y Dyniaethau ac Ieithoedd- Myfyriwr y Flwyddyn  – Jamie Fifield
Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol - Myfyriwr y Flwyddyn – Ayad Khdhir Technoleg - Myfyriwr y Flwyddyn – Curtis Woolley
Peirianneg - Myfyriwr y Flwyddyn  – Ayoob Azhar
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Myfyriwr y Flwyddyn – Keira Wren
Amgylchedd Adeiledig - Myfyriwr y Flwyddyn – Triston Bentick
Prentis y Flwyddyn  – Callum Clarke
Llwyddiant Chwaraeon Rhagorol y Flwyddyn – Ricky Lee Owen
Partner Cyflogwr y Flwyddyn – Swansea Bay University Health Board
Gwobr Elaine McCallion Hyfforddiant GCS - Myfyriwr y Flwyddyn – Janine Williams
Rhyngwladol - Myfyriwr y Flwyddyn – Chandra Damodar
Mynediad - Myfyriwr y Flwyddyn – Megan Fellows
Addysg Uwch - Myfyriwr y Flwyddyn – Dan Cook
Yr Iaith Gymraeg - Myfyriwr y Flwyddyn – Cian Curry
Cyflogadwyedd - Cleient y Flwyddyn – Kelly Doyle
Dilyniant ac Ymrwymiad - Myfyriwr y Flwyddyn  – Leona Stephens
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Myfyriwr y Flwyddyn – Daisy Cavendish

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn – Ayad Khdhir

Diolch yn fawr iawn i bob un o’n noddwyr 2024:

Amroc Group Limited 
AtkinsRéalis 
Bardic Construction
Blake Morgan
Bowen Hopkins Limited
Eurotech Roofing Systems
Kelly Fountain
GJ Willett and Sons
Greenwood Projects
Gyngor Abertawe
Hengoed Care
Mark Jones MBE
Prifysgol Abertawe 
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
reThink PR and Marketing
RW Learning
South Wales Transport
The Game Collection
VTCT
WalesOnline
Waters Creative