Mae dau fyfyriwr Technoleg Peirianneg ar Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn creu argraff yn y diwydiant peirianneg, diolch i gymorth y cyn-fyfyriwr David McRae.
Cwblhaodd David ei radd Peirianneg Adeiladu ym Mhrifysgol Abertawe ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Brif Beiriannydd yn CB3 Consult. Yn ddiweddar, cysylltodd â’i gyn-diwtor, Coral Planas, i chwilio am brentisiaid i ymuno â chynllun prentisiaeth Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Roedd ansawdd y myfyrwyr ar Raglen Peirianneg Uwch Tycoch wedi creu argraff ar CB3 Consult ac o ganlyniad penderfynon nhw gyflogi dau fyfyriwr - Rhidian Jones ac Emily Porter – ar brentisiaethau mewn Peirianneg Sifil.
Bydd Rhidian ac Emily nawr yn cwblhau eu hastudiaethau Lefel 3 un diwrnod yr wythnos cyn symud ymlaen i brentisiaeth gradd.
Chwaraeodd Coral, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg yn Nhycoch, rôl allweddol wrth hwyluso’r cyfle hwn i’r myfyrwyr. Roedd ymweliad David ar gyfer cyflwyniad a chyfweliadau dilynol â’r myfyrwyr yn dangos y lefel uchel o dalentau a sgiliau sydd i’w chael ar y rhaglen Technoleg Peirianneg.
"Mae hwn yn gyflawniad gwych i Rhidian ac Emily, ac mae’n dyst i ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant a ddarperir yn Nhycoch," meddai Coral. "Rydyn ni wrth ein bodd o weld ein myfyrwyr yn sicrhau prentisiaethau gwych ac rydyn ni’n ddiolchgar i David am helpu i wneud i hyn ddigwydd."