Newyddion y Coleg
Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn Ennill Gwobrau Prifysgol Aberystwyth
Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth.
Eleni, mae’r Brifysgol wedi dyfarnu 68 o Ysgoloriaethau a nifer o Wobrau Teilyngdod i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth ym mis Medi 2018.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Athrofa i Enrique Thisby, Ysgoloriaeth Evan Morgan i Emma Burton, Gwobr Teilyngdod i Darson Beeston, a chynnig diamod i Jessica Lewis ar sail eu perfformiadau cryf yn yr arholiadau.
Darllen mwyPobl Abertawe’n sicrhau cyflogaeth well diolch i gynllun cyflogadwyedd y Coleg
Mae rhaglen a ddyluniwyd i gryfhau gweithlu Abertawe wedi cefnogi bron 400 o bobl ac 80 o fusnesau ar draws y ddinas yn ystod ei chwe mis cyntaf o wasanaeth.
Sefydlwyd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a gyflwynir gan Goleg Gŵyr Abertawe, i wella rhagolygon cyflogaeth cyffredinol Abertawe drwy gyfuniad o gefnogaeth gyflogadwyedd un i un i unigolion a chyngor gweithlu a recriwtio pwrpasol i fusnesau.
Darllen mwyLlwyddiant i ddwy fyfyrwraig harddwch
Mae dwy fyfyrwarig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobrau yn un o gystadlaethau nodedig Salon Cymru.
Daeth Amanda Rees yn gyntaf yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, wedi’i dilyn yn agos gan Katie Jennings a ddaeth yn drydydd. Ar hyn o bryd, mae’r ddwy fyfyrwraig yn dilyn cwrs Lefel 2 Colur Cosmetig yng Nghanolfan Broadway y Coleg.
Ar gyfer y gystadleuaeth, bu’n rhaid iddynt ddangos gwahanol dechnegau celfyddyd coluro megis aroleuo a cherflunio.
Darllen mwyTîm rhyngwladol yn ehangu eu gorwelion
Mae Rheolwr Rhyngwladol y Coleg, Kieran Keogh, wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith lwyddiannus i Hong Kong a thir mawr Tsiena.
Yn Hong Kong, aeth Kieran i ddigwyddiad recriwtio gydag Amber Education, un o asiantaethau recriwtio mwyaf yr ardal. Ar dir mawr Tsiena, llofnododd gytundebau gyda chwe ysgol bartner newydd yn Zhuzhou, Lanzhou, Shenyang a Beijing.
Cyfarfu Kieran hefyd â buddsoddwyr Tsieineaidd ynghylch y potensial i ddatblygu campws Coleg Gŵyr Abertawe yn Tseina.
Academi Radio 1 y BBC yn ysbrydoli myfyrwyr lleol
Mae myfyrwyr ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle cynnar i gymryd rhan yn Academi Radio 1 y BBC 2018.
Mae’r Academi’n dod i Theatr y Grand Abertawe ym mis Mai i roi dulliau, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i bobl ifanc er mwyn llwyddo mewn gyrfa greadigol.
Darllen mwySgôr 5 seren arall i fwyty’r Coleg
Yn dilyn ymweliad annisgwyl gan Iechyd yr Amgylchedd yn gynnar ym mis Mawrth, mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth ei fodd i gadarnhau bod bwyty The Vanilla Pod a’r ceginau hyfforddi yn Nhycoch wedi cadw ei sgôr hylendid bwyd o 5.
Darllen mwyGyrfaoedd mewn peirianneg yn croesawu fyfyrwyr
Er mwyn cyd-fynd ag ymgyrch genedlaethol ‘2018: Blwyddyn Peirianneg’, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol yn ddiweddar gan Goleg Gŵyr Abertawe i fyfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa yn y sector arloesol hwn, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd cyffrous a fydd ar garreg drws yn y dyfodol agos!
Darllen mwyCyfarwyddwr AD Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill prif wobr genedlaethol
Roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, wedi ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn yng Ngwobrau AD Cymru 2018 mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd ddydd Gwener.
Y seremoni wobrwyo – sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr Adnoddau Dynol ledled Cymru – yw’r digwyddiad pwysicaf yn Rhwydwaith AD Cymru, grŵp proffesiynol blaengar sy’n rhwydweithio ac yn rhannu syniadau, a grëwyd ac a reolir gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray yng Nghaerdydd ac Acorn, prif arbenigwyr recriwtio Cymru.
Darllen mwyAilddatblygiad newydd gwerth £4 miliwn yn Nhycoch yn agor
Agorwyd prosiect ailddatblygu newydd sbon gwerth £4 miliwn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn swyddogol gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Buddsoddwyd £1.5 miliwn gan Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn y prosiect ailddatblygu, ac mae wedi trawsnewid blaen Campws Tycoch yn lle dysgu a chymdeithasol modern.
Mae gan y llawr isaf dderbynfa newydd sbon, ystafell gyffredin i fyfyrwyr a siop goffi fasnachol, yn ogystal â swyddfeydd pwrpasol i fyfyrwyr, megis derbyn, cyllid a chyngor gyrfaoedd.
Darllen mwyColeg yn penodi yr Athro Tom Crick MBE i arwain menter ddigidol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi'r Athro Tom Crick MBE i arwain ei ymgyrch i ddatblygu sgiliau digidol ar gyfer cyflogwyr yn yr ardal.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 64
- Tudalen nesaf ››